Cymraeg: Galw am fwy o iaith 'bob dydd' yn y cyfryngau
- Cyhoeddwyd
Byddai defnyddio mwy o "Gymraeg bob dydd" ar deledu, radio ac ar-lein yn rhoi hyder i fwy o bobl siarad yr iaith, yn 么l adroddiad newydd.
Yn 么l ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, S4C a'r 91热爆, diffyg hyder yw un o'r prif resymau pam nad yw siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r iaith.
Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc yn llai tebygol o siarad Cymraeg na phobl hyn.
Cafodd yr ar arferion iaith siaradwyr Cymraeg ei gyhoeddi ddydd Iau.
O'r 483 o bobl a gymrodd ran yn yr arolwg, dywedodd 84% y bydden nhw yn croesawu cael mwy o gyfle i siarad Cymraeg. Dywedodd 61% byddai'n dda ganddynt pe gallent siarad Cymraeg yn well.
Dim ond 36% o'r bobl 16-24 oed a holwyd oedd yn dweud eu bod nhw 'bob amser' neu 'fel arfer' yn siarad Cymraeg, o'i gymharu 芒 61% ymhlith pobl dros 60 oed.
Roedd gadael ysgol yn cael ei nodi fel un adeg pan yr oedd defnydd o'r iaith Gymraeg yn debygol o leihau ymhlith rhai.
Pobl ifanc oedd y rhai mwyaf tebygol o fod wedi dechrau dysgu Cymraeg yn y feithrinfa neu'r ysgol gynradd, yn hytrach na'r cartref.
Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen i godi hyder pobl wrth ddefnyddio'r Gymraeg, er ei fod yn nodi nad yw diffyg hyder yn broblem newydd.
Dylai pobl gael sicrwydd bod eu hiaith naturiol, gan gynnwys rhai geiriau Saesneg, yr un mor dderbyniol 芒 Chymraeg sy'n ramadegol gywir yn 么l yr adroddiad:
"Man cychwyn fyddai i siaradwyr Cymraeg weld a chlywed Cymraeg bob dydd yn amlach ar y teledu, ar y radio a thrwy gynnwys digidol sy'n adlewyrchu'n well yr iaith a ddefnyddir yn eu bywyd bob dydd."
Dangosodd canlyniadau cyfrifiad 2011 bod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi lleihau 20,000 dros ddegawd.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i lywio ein polis茂au ar gyfer yr iaith wrth i ni ymateb i heriau ffigyrau cyfrifiad 2011 a'r wybodaeth a safbwyntiau a rannwyd yn ystod y Gynhadledd Fawr."
Dywedodd cyfarwyddwr 91热爆 Cymru Wales Rhodri Talfan Davies: "Mae'r adroddiad yn nodi pryderon yngl欧n 芒 gwasanaethau ar-lein Cymraeg, sy'n fater y mae 91热爆 Cymru Wales eisoes yn mynd i'r afael 芒 hi gyda buddsoddiad newydd a sylweddol i ddatblygu gwasanaeth ar-lein Cymraeg newydd - 'Cymru Fyw'."
Dywedodd prif weithredwr S4C Ian Jones: "Y rheswm y codais y posibilrwydd o wneud y math yma o ymchwil yn wreiddiol oedd i ni gael deall sut mae pobl Cymru'n teimlo yngl欧n 芒 defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn gyffredinol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd8 Awst 2013
- Cyhoeddwyd5 Awst 2013