'Ymateb i'r galw' am e-lyfrau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Ap Llyfrau Cymru wedi cael ei lansio ar Faes yr Eisteddfod fel rhan o brosiect rhwng y Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru.
Dyma gam nesa'r broses o gynyddu'r ddarpariaeth ddigidol o lyfrau o Gymru yn sgil cynllun a sefydlwyd y llynedd i sicrhau detholiad o e-lyfrau Cymraeg a Saesneg.
Mae e-lyfrau Cymraeg wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar.
Eisoes mae cwmni'r Lolfa wedi casglu dros 5,000 o enwau ar ddeiseb yn galw ar Amazon i ganiat谩u cyhoeddi e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ac i ychwanegu'r Gymraeg fel un o'r ieithoedd swyddogol.
"Erbyn hyn, mae yna dros 750 o e-lyfrau ar wefan Gwales," meddai Phil Davies, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hyrwyddo Cyngor Llyfrau Cymru.
"Y cam nesaf naturiol i ni yw manteisio ar y cynnydd yn y galw am Aps Cymraeg a chynorthwyo'r cyhoeddwyr i ddarparu teitlau electronig ag iddyn nhw gynnwys mwy cyfoethog."
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor Llyfrau wedi cydweithio gyda chwmni Yudu, sy'n arbenigwyr yn y maes ac mae pedwar cyhoeddwr o Gymru - Atebol, Canolfan Astudiaethau Addysg, Graffeg a'r Lolfa - yn rhan o'r cynllun peilot cychwynnol.
'Yn rhad ac am ddim'
Gyda lansio Ap Llyfrau Cymru, mae cyfle i gyhoeddwyr eraill ymuno 芒'r cynllun ac mae'r darllenwyr yn gallu lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim cyn talu am deitlau unigol.
Buddsoddwyd mewn system sy'n caniat谩u i'r cyhoeddwyr greu teitlau uchelgeisiol i'w gwerthu trwy'r ap gyda'r incwm a gynhyrchir yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu a chynnal y cynllun.
Bydd tair elfen yn y cynllun, gydag ap yn cael ei gynnig i ddechrau trwy'r App Store - sy'n addas ar gyfer iPhone, iPad a'r iPod touch - ac yna fersiwn Android a fydd ar gael drwy Google Play ar gyfer nifer o declynnau eraill.
Bydd fersiwn y we yn cael ei gynnig drwy wefan Gwales ac ar wefannau'r cyhoeddwyr.
'Ffynnu yn yr oes ddigidol'
Wrth groesawu'r datblygiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Er mwyn i'r Gymraeg ffynnu yn yr oes ddigidol, mae'n bwysig fod hi'n rhwydd i ni gael gafael ar dechnoleg a chyfryngau digidol yn yr iaith Gymraeg.
"Mae gan y Cyngor Llyfrau, ynghyd 芒'r cyhoeddwyr, r么l allweddol wrth gynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith.
"Rydym yn falch o fod wedi gallu cefnogi datblygiad yr ap newydd, sy'n adeiladu ar lwyddiant gwales.com ac yn ymateb i'r galw cynyddol am gynnwys digidol Cymraeg, gan gynnwys e-lyfrau."
Cr毛wyd Welsh Books App ochr yn ochr 芒'r fersiwn Cymraeg a bydd yn cynnwys yr un detholiad o deitlau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013