Real a Tottenham yn trafod Bale

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae hyfforddwr Real Madrid wedi cadarnhau am y tro cynta' fod y clwb yn cynnal trafodaethau gyda Tottenham ynglŷn â'r Cymro Gareth Bale.

Daw sylwadau Carlo Ancelotti wedi adroddiadau fod Real yn paratoi cynnig a fyddai'n fwy na'r £80 miliwn a daliwyd am Cristiano Ronaldo yn 2011.

Dywedodd Ancelotti wrth gynhadledd i'r wasg yng ngwersyll hyfforddi'r garfan yn Los Angeles: "Rwy'n deall fod y clwb yn cynnal trafodaethau i geisio cael ateb ac fe gawn ni weld beth ddaw."

Roedd llefarydd ar ran Bale wedi dweud wrth Spurs dros y penwythnos fod y chwaraewr 24 oed eisiau symud i Sbaen.

Ond dyw hi ddim yn ymddangos fod unrhyw gynnig swyddogol wedi ei gyflwyno gan Real.

Roedd Bale wedi hyfforddi gyda'i glwb ddydd Mercher yn dilyn triniaeth ar ei goes, a olygodd ei fod wedi methu dwy gêm baratoadol y clwb cyn y tymor newydd.

Pan ofynwyd i Ancelotti ynglŷn â'r posibilrwydd o ychwanegu Bale i'r garfan yr haf hwn, dywedodd:

"Mae'n anodd siarad am Bale am nad yw'n chwarae i Real Madrid ar hyn o bryd.

"Dydw i erioed wedi siarad ag e. Dydw i ddim fel arfer yn siarad gyda chwaraewyr sydd ddim ar fy nhîm a fydda' hi ddim yn deg gwneud hynny."

Cafodd Bale, a ymunodd â Spurs o Southampton ar gytundeb gwerth £10 miliwn yn 2007, ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn gan Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol a gan newyddiadurwyr y gamp y tymor diwetha' ar ôl sgorio 26 o goliau i dîm White Hart Lane.