Gwobr arall i Gareth Bale
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Gareth Bale wedi cael ei ddewis yn B锚l-droediwr y Flwyddyn gan newyddiadurwyr y gamp.
Daw hyn wedi i asgellwr Tottenham Hotspur a Chymru gael ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn a chwaraewr ifanc y flwyddyn gan aelodau'r PFA - Cymdeithas y P锚l-droedwyr Proffesiynol - yr wythnos ddiwetha'.
Mae Bale, 23, wedi sgorio 24 o goliau'r tymor hwn, gydag 19 ohonynt yn yr Uwchgynghrair.
Mae hefyd wedi sgorio 5 g么l mewn pedair g锚m i Gymru, a'r rheiny'n gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, Yr Alban a Croatia ynghyd 芒 g锚m gyfeillgar yn erbyn Awstria.
Wrth glywed am y wobr ddiweddara', dywedodd Bale: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn Chwaraewr y flwyddyn gan Gymdeithas y Gohebwyr P锚l-droed.
"Mae'n golygu llawer ennill y wobr hon pan ry'ch chi'n ystyried faint o chwaraewyr sydd wedi sefyll mas dros eu clybiau yn yr Uwchgynghrair y tymor hwn."
Bale yw'r Cymro cynta' i ennill y wobr ers Neville Southall yn 1985.
Bydd yr asgellwr yn derbyn y wobr mewn cinio yn Llundain ar Fai 9.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2013