Amddiffyn ymateb Llywodraeth Cymru i broblemau Betsi
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi amddiffyn ymateb Llywodraeth Cymru i'r ffaeleddau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd David Sissling wrth Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod y llywodraeth wedi gweithredu yn gyflym ar 么l dod i wybod am y problemau yn 2012.
Ond dywedodd hefyd yn y dyfodol y byddai'r llywodraeth yn cadw golwg mwy manwl ar ansawdd y gofal a'r ffordd y mae byrddau iechyd yn rheoli:
"Prawf y system yw sut mae'n ymateb i broblemau. Ac mi oedd y problemau (ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr) wedi eu canfod ac mi wnaethon ni weithredu yn bendant," meddai.
Gofal yn bwysig
Pan ofynnwyd iddo yn ystod y pwyllgor a oedd yr hyn ddigwyddodd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn adlewyrchu gwasanaeth iechyd sydd yn rhoi pres fel blaenoriaeth cyn ansawdd gofal, gwadodd mai dyma'r sefyllfa.
Mae arweinwyr iechyd yng Nghymru, "yn siarad yn obsesiynol yngl欧n ag ansawdd bob tro rydyn ni yn cyfarfod," meddai.
Er hynny, yn 么l Mr Sissling mae angen cydbwysedd er mwyn gwneud yn si诺r bod y cyrff iechyd yn gynaliadwy yn ariannol.
Mewn cyfnod pan mae'r esgid yn gwasgu a llai o arian yn y pot dywedodd fod angen trafodaeth ehangach am yr hyn y gall y gwasanaeth iechyd gynnig yn y dyfodol:
"Efallai na fyddwn ni yn gallu parhau i wneud yr hyn rydyn ni yn gwneud. Mae'n bosib y bydd angen newid sylweddol, nid jest newid graddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013