Problem fisa i gystadleuwyr Llangollen
- Cyhoeddwyd
Fydd 'na ddim cynrychiolaeth o Dwrci yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen oherwydd bod nifer o grwpiau a oedd yn gobeithio cystadlu wedi methu 芒 chael fisa.
Mae tua hanner y cystadleuwyr o India yn yr un sefyllfa, gan gynnwys un gr诺p sydd wedi teithio i Langollen "ers nifer fawr o flynyddoedd".
Dywedodd cyfarwyddwr yr eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, ei bod wedi mynd yn anoddach cael fisas i rai cystadleuwyr, gyda rhai yn tynnu eu henwau'n 么l mor ddiweddar 芒'r penwythnos diwetha'.
"Rydym yn gwneud popeth posib i geisio eu cael yma - rydym yn gweithio gyda nifer o lysgenhadaethau a'r Asiantaeth Ffiniau," meddai.
Mae nifer o gystadleuwyr wedi cael trafferth gyda fisas dros y blynyddoedd.
Mae'r sefyllfa economaidd fyd-eang hefyd yn parhau yn rhwystr i nifer, er gwaetha'r ffaith fod yr eisteddfod wedi sefydlu cronfa gwerth 拢30,000 i helpu gyda chostau teithio a llety.
"Dyw'r gronfa yna ddim wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr oedden ni'n gobeithio eleni," meddai Mr Griffiths.
"Y flwyddyn nesa', rydym yn gobeithio denu mwy o noddwyr fel y gallwn ni ddod 芒'r grwpiau yma drosodd. Dyw 拢30,000 ddim wedi mynd yn bell eleni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013