Mark Drakeford i gyhoeddi newid i'r Gwasanaeth Ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi newidiadau sylweddol i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn ddiweddarach.
Dyw'r gwasanaeth heb lwyddo i gyrraedd targedau amser ymateb am 12 mis yn olynol ac mae pryder bod aelodau staff yn digalonni.
Wedi adolygiad cafodd adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ebrill, a oedd yn argymell newid y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg, ei reoli a'i gyllido.
Roedd adolygiadau blaenorol yn 2006, 2007 a 2008 hefyd wedyn codi pryderon difrifol yngl欧n 芒 pherfformiad y gwasanaeth.
Mae'r ffigyrau ymateb ar gyfer mis Mai yn dangos fod ambiwlansys wedi ymateb i 62.5% o alwadau brys o fewn wyth munud - oedd yn 卯s na'r targed o 65% ond yn well na pherfformiad mis Mawrth, pan oedd yn 57.2%.
'Digalon'
Dywedodd y gwrthbleidiau fod y ffigyrau yn rhai "digalon" ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod angen gwella'r perfformiad.
Fe wnaeth yr adolygiad a gafodd ei gynnal gan yr Athro Siobhan McLelland alw am newidiadau mawr, gan awgrymu tri model ar gyfer sut gallai'r gwasanaeth gael ei redeg yn y dyfodol:
Bwrdd iechyd ar wah芒n sy'n cael ei gyllido'n uniongyrchol gan y llywodraeth;
Byrddau iechyd lleol yn comisiynu gwasanaethau'r ambiwlans gyda phrosesau ac amcanion clir;
Byrddau iechyd lleol yn cymryd cyfrifoldeb am reoli gwasanaethau ambiwlans yn eu hardal.
Byddai'r trydydd dewis yn golygu y byddai'r gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol yn cael ei ddirwyn i ben.
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell rhoi mwy o hyfforddiant i barafeddygon i'w cynorthwyo i allu gwneud penderfyniadau.
Yn ogystal, dywedodd yr adolygiad bod methu targedau'n cael effaith negyddol ar ysbryd y gweithlu ac y dylen nhw efallai gael eu newid.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei sefydlu yn 1999 ac mae wedi wynebu llawer o broblemau ers hynny.
Yn 2002 roedd rhaid iddynt ddychwelyd gwrth 拢40,000 o radios oherwydd eu bod yn gweithredu ar yr amledd anghywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012