Mwy o swyddi yn Airbus
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Airbus wedi cyhoeddi eu bod nhw'n creu mwy o swyddi yn y gogledd fel rhan o gynllun i gyflogi 3,000 yn Ewrop eleni.
Dywedodd y cwmni y byddai 300 o swyddi yn cael eu rhannu rhwng ffatr茂oedd Brychdyn yn Sir y Fflint a safle Filton ger Bryste.
Bydd manylion am swyddi yn Sioe Awyr Ryngwladol Paris yn ddiweddarach yn y mis.
"Mae'r 3,000 o swyddi oherwydd datblygiadau fel awyren yr A320neo a'r A350 XWB," meddai llefarydd.
"Bydd graddedigion ifanc 芒 llai na thair blynedd o brofiad yn gallu gwneud cais am fwy na 33% o'r swyddi."
Dywedodd fod y swyddi'n cynnwys peirianwyr systemau, peirianwyr strwythurol a rhai yn yr adran gynhyrchu.
Ar hyn o bryd mae 6,000 yn gweithio ym Mrychdyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012