91热爆

Papur newydd i drigolion Caerffili

  • Cyhoeddwyd
GwasgFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod Caerphilly Observer yw ehangu ar y gynulleidfa sydd yn edrych ar y newyddion ar ei gwefan

Mae gwefan sydd yn darparu newyddion i drigolion Caerffili erbyn hyn wedi lansio papur newydd.

Dechreuodd Caerphilly Observer ar y we yn 2009 gan y newyddiadurwr Richard Gurner ond ar 么l derbyn arian gan y cyngor lleol fe benderfynodd gynhyrchu'r deunydd ar ffurf print.

Ers 2009 mae'n honni bod y nifer sydd yn edrych ar y wefan wedi cynyddu gyda tua 20,000 yn ymweld 芒'r safle bob mis.

Mae 10,000 o gop茂au wedi cael eu dosbarthu i siopau lleol a dyma'r unig bapur newydd am ddim sydd ar gael ar gyfer ardal Caerffili.

Bydd y papur 16 tudalen yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos.

Bwlch yn y farchnad

Dywedodd Richard Gurner: "Mi aeth popeth yn esmwyth gyda'r rhifyn cyntaf ac mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn gan hysbysebwyr wedi bod yn rhyfeddol.

"Mi oedd yr holl waith caled werth e wrth weld y papur cyntaf yn cael ei gyhoeddi am 3.30am. Mae Caerphilly Observer nawr yn bodoli ac fe all pobl ei n么l a'i gymryd adref gyda nhw. Dyw e ddim jest yn rhywbeth sydd yn bodoli ar y we."

Ychwanegodd: "Does gan fwrdeistref Caerffili ddim papur newydd yn benodol ar gyfer yr ardal yma i gyd a dyna'r bwlch yn y farchnad rydyn ni yn targedu.

"Y nod gyda'r Caerphilly Observer yw creu deunydd cynaliadwy, wedi ei berchnogi yn lleol y bydd ein darllenwyr yn falch ohono.

"Er bod y niferoedd sydd yn ymweld 芒'r wefan yn ffigyrau y dylen ni ymfalch茂o ynddo, mae yna nifer yn y gymuned sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r Caerphilly Observer.

Bydd y fersiwn print yn ehangu ein cynulleidfa ac yn tyfu ein brand fel ein bod ni yn cyrraedd pobl sydd ddim ar y we."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol