Carwyn Jones: Toriadau 'poenus'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ddweud bod toriadau "poenus" ar y ffordd.
Annerch cynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur Cymru mae Carwyn Jones a dweud bod ei lywodraeth yn disgwyl toriadau pellach i'r grant blynyddoedd oddi wrth San Steffan.
Bydd rhaid i'w lywodraeth, meddai, gymryd penderfyniadau "anodd" er mwyn sicrhau gwariant ar flaenoriaethau'r llywodraeth, iechyd, addysg a chreu swyddi.
'Arwydd'
Yn y Cynulliad dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths: "Bydd adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan yn golygu llai o gyllid i Lywodraeth Cymru.
"Ni fydd modd i ni amddiffyn cyllidebau awdurdodau lleol ...
"Felly mae gostyngiadau ariannol llywodraeth leol yn Lloegr yn arwydd o'r hyn fydd yn digwydd yng Nghymru.
"Mae angen i gynghorau ar unwaith gynllunio fel bod modd trefnu lefel is o adnoddau fyddai ar gael yn y dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru'n gwario dros 40% o'i chyllideb ar iechyd ac mae addysg a'r economi yn sectorau eraill sy'n derbyn canran uchel o arian.
Yn gostwng
Mae Llywodraeth Cymru'n derbyn 拢15bn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU ond mae'r ffigwr wedi bod yn gostwng ers 2010, gyda gwariant ar isadeiledd yn cael ei leihau'n sylweddol.
Gallai rybudd Mr Jones olygu y bydd toriadau i lywodraeth leol yng Nghymru fod yn ddyfnach nac mae wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013