91热爆

Cyfle i ddweud barn am ddatganoli

  • Cyhoeddwyd
Chapter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Canolfan Chapter yng Nghaerdydd yw lleoliad y cyfarfod cyntaf

Mae comisiwn yn annog pobl Cymru i ddweud eu barn am ddyfodol datganoli.

Y cwestiwn y byddan nhw'n ei ofyn yw Pa bwerau pellach, os o gwbwl, y dylid eu rhoi yn nwylo'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru?

Bydd y digwyddiad cyntaf yng Nghaerdydd ar Fai 21.

Sefydlwyd Comisiwn Silk gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn ystyried dyfodol datganoli a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2014 am bwerau'r Cynulliad.

Cyllid

Mae'r comisiwn eisoes wedi cyhoeddi un adroddiad ar drefniadau cyllid yng Nghymru ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn berchen ar bwerau i amrywio trethi.

Bydd y cyfarfodydd cyntaf yn y de ym mis Mai cyn cael eu cynnal yng ngweddill Cymru ym mis Mehefin.

Dywedodd cadeirydd y comisiwn Paul Silk: "Rydym yn benderfynol o ddod o hyd i argymhellion fydd yn cael eu cefnogi'n eang ac er budd gorau Cymru.

"Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hyn yw trwy wrando a dadansoddi pob tystiolaeth sy'n cael ei rhoi i ni a chlywed cymaint o safbwyntiau 芒 phosib.

"Mae ein neges yn syml - dewch draw i chwarae eich rhan i sicrhau bod gan Gymru'r pwerau cywir ar gyfer y dyfodol."

Calendr cyfarfodydd cyhoeddus

Mai 21: Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd;

Mai 21: Ystafell y Castell, Canolfan Casnewydd, Casnewydd;

Mai 22: Canolfan Ddiwylliannol a Chynadledda'r Metropole; Stryd Mitre, Abertyleri

Mai 22: Neuadd y Sir, Sgw芒r Agincourt, Trefynwy;

Mai 23: Theatr Soar, Merthyr;

Mai 23: Campws Cymuned Gartholwg, Heol Sant Illtud, Pontypridd

Mehefin 4: Neuadd y Dre Llandudno, Heol Lloyd, Llandudno

Mehefin 4: Canolfan Catrin Finch, Campws Plas Coch, Heol Yr Wyddgrug, Wrecsam

Mehefin 5: Neuadd Penrhyn, Ffordd Gwynedd, Bangor;

Mehefin 5: Neuadd y Dre Llangefni, Llangefni, Ynys M么n;

Mehefin 6: Pierhead, Bae Caerdydd;

Mehefin 25: Coleg Powys, Heol Llanidloes, Y Drenewydd;

Mehefin 25: Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Penglais, Aberystwyth;

Mehefin 26: Theatr y Torch, Heol San Pedr, Aberdaugleddau;

Mehefin 26: Canolfan Halliwell, Heol y Coleg, Caerfyrddin;

Mehefin 27: Theatr y Grand, Stryd Singleton, Abertawe.