91热爆

Ambiwlansys: ACau'n trafod adolygiad

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daw'r cyhoeddiad am arian ychwanegol ar drothwy dadl yn y senedd am y gwasanaeth ambiwlans

Mae Aelodau Cynulliad wedi bod yn trafod argymhellion adolygiad yr Athro Siobhan McLelland am y gwasanaeth ambiwlans, y nawfed mewn chwe blynedd.

Roedd yr adolygiad wedi dweud bod "problem sylfaenol gyda trefniadau atebolrwydd a llywodraethu'r gwasanaeth ambiwlans".

Ymhlith yr argymhellion roedd un am i'r llywodraeth ystyried dileu gwasanaeth Cymru-gyfan yn llwyr.

Dim ond 53.3% o alwadau brys Adran A gyrhaeddodd o fewn targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Mawrth eleni.

'Embaras misol'

Amlygodd y gwrthbleidiau ba mor wael oedd perfformiad y gwasanaeth.

Tra dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod y perfformiad yng Nghymru'n llawer gwaeth na gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, cyfeiriodd y Blaid Geidwadol at broblemau o ran ysbryd y staff.

Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru fod y perfformiad yn "embaras misol" i Lywodraeth Cymru.

Cynigiodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y dylai'r gwrthbleidiau gynnig eu syniadau a thrafod ag e.

Mae Gohebydd Iechyd 91热爆 Cymru Owain Clarke wedi dweud: "Mae'n ymddangos ei fod e'n dweud bod y cwestiwn mor bwysig fel bod angen datblygu rhywfath o gonsensws.

"Nid hon oedd yr adeg i wyntyllu dadleuon y gorffennol."

Ynghynt cyhoeddodd y gweinidog gyllid ychwanegol o 拢9.48 miliwn ar gyfer ambiwlansys yng Nghymru.

Bydd yr arian ychwanegol yn caniat谩u cyfnewid 110 o'r hen gerbydau, gan gynnwys ambiwlansys a cherbydau ymateb cyflym.

'68%'

Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Mr Drakeford: "Mae nifer y galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynyddu o 68% dros y degawd diwethaf.

"Mae'n dibynnu ar gael cerbydau yn barod i ymateb 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ambiwlansys yng Nghymru yn gweithredu mewn amgylchiadau anodd ac yn gwneud llawer iawn o filltiroedd.

"Rhaid i ni felly barhau i fuddsoddi mewn cerbydau newydd fel eu bod ar y ffordd ac yn barod i ddarparu gwasanaethau clinigol o safon uchel."

Dywedodd y gweinidog y byddai'r arian ychwanegol yn talu am :-

  • 49 ambiwlans brys a gwasanaethau dibyniaeth uchel;

  • 46 cerbyd ymateb cyflym a cherbydau ymarferwyr brys;

  • tri gwasanaeth gofal y claf;

  • pum gwasanaeth negesydd iechyd;

  • saith cerbyd arbenigol (i'w defnyddio i reoli, hyfforddi gyrwyr a chefnogi digwyddiadau mawr).

Hefyd gan y 91热爆

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol