Arian ychwanegol i ambiwlansys Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer ambiwlansys yng Nghymru.
Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad fis diwethaf o'r gwasanaeth ambiwlans.
Bydd yr arian ychwanegol - 拢9.48 miliwn - yn caniat谩u cyfnewid 110 o'r hen gerbydau, gan gynnwys ambiwlansys a cherbydau ymateb cyflym.
Roedd yr adolygiad gan yr Athro Siobhan McLelland wedi argymell newidiadau mawr o ran sut y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei reoli a'i ariannu, ac yn dweud bod angen "gweledigaeth glir".
Daeth cyhoeddiad y gweinidog ar drothwy dadl yn y Senedd am Adolygiad McLelland, a gafodd ei gyhoeddi ar Ebrill 29.
Ym mis Mawrth roedd ffigyrau ymateb ambiwlansys Cymru i alwadau brys wedi dirywio ymhellach, gyda dim ond 53.3% o alwadau brys Adran A wedi eu cyrraedd o fewn targed Llywodraeth Cymru o wyth munud.
Cynnydd
Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Mr Drakeford:
"Mae nifer y galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynyddu o 68% dros y degawd diwethaf.
"Mae'n dibynnu ar gael cerbydau yn barod i ymateb 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ambiwlansys yng Nghymru yn gweithredu mewn amgylchiadau anodd ac yn gwneud llawer iawn o filltiroedd.
"Rhaid i ni felly barhau i fuddsoddi mewn cerbydau newydd fel eu bod ar y ffordd ac yn barod i ddarparu gwasanaethau clinigol o safon uchel."
Dywedodd y gweinidog y bydd yr arian ychwanegol yn ddigon i dalu am :-
49 ambiwlans brys a gwasanaethau dibyniaeth uchel;
46 cerbyd ymateb cyflym a cherbydau ymarferwyr brys;
3 gwasanaeth gofal y claf;
5 gwasanaeth negesydd iechyd;
7 cerbyd arbenigol (i'w defnyddio i reoli, hyfforddi gyrwyr a chefnogi digwyddiadau mawr).
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Yn ddiweddarach ddydd Mawrth, byddwn yn trafod Adolygiad McLelland i Wasanaeth Ambiwlans Cymru a fydd yn codi nifer o ddewisiadau diddorol i wella'r gwasanaeth ymhellach."
'Problemau rheolaeth'
Yn y cyfamser, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi trefn ar amseroedd aros y gwasanaeth, ar 么l iddi ddod i'r amlwg fod y gwasanaeth ambiwlans wedi methu ei thargedau.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mawrth, dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru Aled Roberts ei fod yn croesawu'r arian ychwanegol ond bod angen mynd i'r afael 芒 phroblemau rheolaeth.
"Mae 'na rywbeth o'i le gyda'r ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli yng Nghymru...Mae'r gwasanaeth yn llawer gwaeth yma nag ydy o yn Lloegr a'r Alban.
"'Da ni wedi bod yn galw am welliannau i'r gwasanaeth ers rhyw 18 mis rwan...'da ni'n dal i weld fod y gwasanaeth yn gwaethygu yma.
"Mae'r ffigurau'n warthus i ddweud y gwir...mae'r sefyllfa yma wedi bodoli ers blynyddoedd ond eto does dim gwelliant.
"Dwi'n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru ddweud be' maen nhw'n mynd i wneud heblaw am y 拢9 miliwn yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013