91热爆

Arweinydd ar gyfer gwyl Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Perfformwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r w欧l yn denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn edrych am berson newydd i arwain yr 诺yl.

Ar 么l gwneud elw am y tro cyntaf ers pum mlynedd y llynedd mae'r pwyllgor sydd yn rhedeg y digwyddiad blynyddol wedi penderfynu penodi prif weithredwr.

Gall y person fydd yn cael ei ddewis disgwyl cyflog allai fod cymaint 芒 拢70,000 a hynny am 100 diwrnod o waith y flwyddyn.

Dywedodd y Cadeirydd Phil Davies: "Mae'n r么l holl bwysig ond rydyn ni yn teimlo bod yr 诺yl yn ddigwyddiad mor unigryw bod ni yn amser i chwilio am brif weithredwr i sicrhau bod llwyddiant yr Eisteddfod yn parhau."

Yn 么l Phil Davies fydd angen i'r person llwyddiannus feddu ar sgiliau busnes da a sgiliau rheoli. Fe fyddai'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

"Rydyn ni yn gweld y person fydd yn gwneud y r么l yn pontio nid yn unig y mudiadau o'r tu allan ond hefyd gydag ein cyfarwyddwr cerddoriaeth wych, Eilir Owen Griffiths, ein staff a'r 500 a mwy o wirfoddolwyr sydd yn dod at ei gilydd i wneud y digwyddiad yn un mor unigryw."

Hanes yr Eisteddfod

Mae'r 诺yl wedi denu ymwelwyr a chystadleuwyr ar draws y byd ers iddi gychwyn yn 1947.

Fe gafodd hi ei chreu wedi'r Ail Rhyfel Byd fel digwyddiad i hybu heddwch rhyngwladol a chreu cysylltiadau rhwng cenhedloedd.

Bob blwyddyn mae 2,500 o gystadleuwyr o dramor yn dod i Langollen a bron i 40,000 yn ymweld 芒'r 诺yl.

Eleni bydd artistiaid fel Jools Holland ac Only Men Aloud yn perfformio.

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn digwydd rhwng y 9-14 o Orffennaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol