91热爆

Ambiwlans awyr yn gwasanaethu dros nos

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans awyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ambiwlans awyr yn cael ei alw tua 2000 gwaith y flwyddyn

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi dechrau cynnal gwasanaethau achub yn ystod y nos.

Y gobaith yw y bydd y rhaglen beilot yn arwain at achub mwy o fywydau tra ar yr un pryd rhoi cyfle i staff y sefydliad brofi eu sgiliau mewn amodau gwahanol i'r arfer.

Mae peilotiaid yr ambiwlans wedi bod yn derbyn hyfforddiant dros yr wythnosau diwethaf ar dechnegau fydd yn eu galluogi i hedfan yr hofrenyddion yn ystod y nos.

Roedd rhan o hyn yn cynnwys dysgu sut i ddefnyddio sbectol oedd yn eu galluogi i weld yn y tywyllwch.

Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru Angela Hughes ei bod hi'n gobeithio medru "darparu gwasanaeth 24-awr yng Nghymru, ac mae hwn yn gam cyffrous tuag at hynny."

Bydd y cyfnod prawf yn rhedeg tan fis Awst.

"Achub bywyd"

Mae un dyn wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth newydd yn barod.

Cafodd yr ambiwlans awyr ei galw i hedfan g诺r o'r Trallwng i ysbyty yn Staffordshire, wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon yn ystod y nos.

Fe wnaeth yr ambiwlans awyr amcangyfrif eu bod wedi arbed awr o amser teithio drwy ei hedfan mewn hofrennydd yn hytrach na'i gludo dros y tir.

Wedi'r digwyddiad dywedodd rheolwr clinigol cenedlaethol Ambiwlans Awyr Cymru Jason Williams ei fod yn "esiampl wych o wasanaethau achub bywyd yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl yng Nghymru.

"Yn yr enghraifft hon 'amser yw cyhyr', felly am bob munud mae cyhyr y galon heb waed mae'r tebygolrwydd o'r person yn goroesi yn gostwng yn sylweddol."

Gall yr hofrennydd sy'n cael ei defnyddio yn ystod y cyfnod peilot gyrraedd unrhyw ardal yng Nghymru o fewn 40 munud.

Mae Mr Williams yn gobeithio y bydd yn derbyn trwydded fydd yn ei alluogi i lanio'r hofrennydd mewn safleoedd tywyll cyn diwedd y flwyddyn.

"拢6m y flwyddyn"

Mae gwasanaethau'r ambiwlans awyr yn costio 拢6m y flwyddyn i'w rhedeg, arian sy'n cael ei godi drwy ddigwyddiadau elusennol a rhoddion gan aelodau o'r cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid tuag at gyflogau'r parafeddygon.

Ers cael ei sefydlu yn 么l yn 2001 mae'r gwasanaeth wedi cael ei galw i alwadau dros 17,600 o weithiau.

Yn ogystal 芒'r safle yn y Trallwng mae yna hefyd ganolfannau ambiwlans awyr yng Nghaernarfon ac Abertawe.

Mae Jason Williams yn gobeithio y bydd mwy o ysbytai yn gwneud darpariaethau ar gyfer derbyn cleifion o hofrenyddion yn ystod y nos yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd dim ond Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Morriston yn Abertawe all wneud hynny.