Lansio clwb ceir trydan cymunedol cyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r clwb ceir trydan cymunedol cyntaf yng Nghymru wedi cael ei lansio yn Sir Benfro.
Mae Gr诺p Cymunedol Cilgwyn ger Trefdraeth, Sir Benfro, wedi prynu cerbyd trydan newydd sbon ac wedi sefydlu clwb cludiant trydan cymunedol newydd ym mhentref Cilgwyn.
Bydd y car trydan Nissan Leaf newydd, fydd ar gael i'r gymuned, yn cael ei defnyddio mewn cynllun rhannu ceir.
Gyda'r nod o leddfu'r angen am ail geir neu geir nas defnyddir, a chan gynnig cynllun cludiant amgen, bydd modd i drigolion lleol neilltuo'r car trydan newydd ar-lein neu dros y ff么n am bris cychwynnol o 拢2.50 yr awr a phum ceiniog y filltir.
Soced domestig
Bydd rhaglen feddalwedd yn cyfrifo'r hyn y mae arnyn nhw ac agorir y car gan ddefnyddio cerdyn clyfar.
Bydd telemetreg fewnol yn bwydo arddull yrru pob cwsmer yn 么l i ddiogelu bywyd y batri.
Bydd y fenter yn cynhyrchu incwm o ffioedd aelodaeth a chodi t芒l fesul milltir, a gaiff ei ail-fuddsoddi yn y prosiect i'w wneud yn hunangynhaliol.
Mae gan y car banel solar ar y to hefyd i gyfrannu at y p诺er.
Gellir ei wefru o soced domestig ac yn swyddogol gall y car gyrraedd 100 milltir ar 么l pob gwefriad.
Mae gwefru cyflym eisoes ar gael mewn trefi gerllaw fel Hwlffordd, a disgwylir iddo gael ei osod yn fuan mewn trefi ac ar lwybrau eraill yn lleol.
Mae'r gr诺p hefyd yn ceisio creu cyswllt rhwng gwefru a ph诺er adnewyddadwy dros ben.
Yng Nghilgwyn bydd yn manteisio ar ynni gwynt sb芒r o dyrbin, yn enwedig gyda'r nos.
Ac yn Nhrefdraeth, bydd yn defnyddio ynni solar sb芒r a gynhyrchir gan baneli ar do Neuadd Goffa Trefdraeth.
Mae ail gar trydan i fod i gyrraedd yn fuan, gyda cherbydau eraill i ddilyn os aiff y galw yn uwch nag argaeledd.
Mae'r cynllun wedi ei gefnogi gan bron 拢25,000 a ddyfarnwyd gan raglen Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr.