91热爆

Bywydau cleifion 'mewn perygl' oherwydd argyfwng sy'n wynebu'r unedau gofal brys

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans tu allan i adran frys ysbyty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pwysau ar adrannau brys yn cael effaith ar y gwasanaeth ambiwlans

Mae adrannau achosion brys Cymru yn wynebu argyfwng fydd, yn 么l gr诺p o ymgynghorwyr, yn gallu arwain at sefyllfa debyg i sgandal Ysbyty Stafford.

Mewn llythyr ar y cyd at Weinidog Iechyd newydd Cymru, Mark Drakeford, mae bron hanner ymgynghorwyr meddygaeth frys Cymru yn rhybuddio bod gorlenwi difrifol yn golygu bod diogelwch cleifion mewn peryg ac y gallai cleifion "farw'n ddiangen".

Maen nhw'n dweud bod pwysau ar Fyrddau Iechyd Lleol i gyrraedd targedau ariannol wedi arwain at welyau ysbyty byrdymor yn cau "ar draul gofal o ansawdd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai un o brif flaenoriaethau Mr Drakeford oedd edrych ar sut i leihau'r pwysau ar ofal brys.

Wrth i fyrddau iechyd geisio cwrdd 芒'u dyletswydd gyfreithiol i fantoli'r cyfrifon, mae'r ymgynghorwyr wedi codi pryderon.

Yn gynharach ym mis Mawrth bu unedau achosion brys o dan bwysau dwys wrth i'r nifer fwyaf erioed o gleifion sy'n ddifrifol wael fynychu ysbytai Cymru.

Mae diffyg gwelyau yn golygu bod y lefel yma o orlenwi bron yn ddigwyddiad dyddiol, ym mhrofiad y gr诺p o ymgynghorwyr.

Cleifion mewn perygl

Yn y llythyr, maen nhw'n dweud: "Mae ein hadrannau Achosion Brys ar eu gliniau.

"Maen nhw'n ddifrifol orlawn bron bob dydd.

"Mae hyn yn peryglu diogelwch ac yn rhoi cleifion mewn perygl. Mae tystiolaeth glir bod cyfraddau marwolaeth yn cynyddu os yw cleifion yn aros oriau mewn Adrannau Achosion Brys am welyau ward.

"Mae pob un ohonom wedi gweld safonau gofal yn llithro yn ein hadrannau, wrth i ni ymdrechu i edrych ar 么l dwsin neu fwy o gleifion sy'n aros yn yr Adrannau Brys am welyau ward, yn ogystal 芒 gweithio ein llwyth gwaith arferol."

Maen nhw'n cyfeirio at nifer o enghreifftiau o orlenwi yn achosi niwed i gleifion:

  • Claf yn cael trawiad ar y galon wrth gael eu gweld yn yr ystafell archwiliad llygaid (gan nad oedd dim lle yn y bae adfywio);

  • Dim lle mewn ystafell adfywio i drin babi difrifol wael;

  • Cleifion yn treulio hyd at 3 diwrnod mewn Adrannau Achosion Brys yn aros am wely.

Yn ogystal, maen nhw'n dweud bod y pwysau yn cael "sgil-effaith ar wasanaeth Ambiwlans Cymru" oherwydd nad ydyn nhw'n gallu ymateb i argyfyngau "pan fod llwyth o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i Adrannau Achosion Brys."

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod ambiwlansys wedi methu targed ymateb i alwadau brys am y nawfed mis yn olynol.

Roedd manylion Chwefror yn dangos mai 60.8% o ymatebion i alwadau brys gyrhaeddodd o fewn wyth munud, gan fethu'r targed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o 65%.

Marwolaethau di-angen

Mae'r ymgynghorwyr yn rhybuddio y gallai greu diwylliant lle mae'n ofynnol i fyrddau iechyd i fantoli'r cyfrifon arwain at yr un canlyniad a sgandal Ysbyty Stafford.

Mae adroddiad ymchwiliad cyhoeddus yn dweud fod esgeulustod a cham-drin yn Ysbyty Stafford rhwng 2005 a 2008 wedi arwain at farwolaethau diangen.

Mae Adroddiad Francis, a gyhoeddwyd ar ddechrau mis Chwefror, yn cyhuddo'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr o roi hunan-les corfforaethol cyn cleifion.

Mae'r ymgynghorwyr yn dweud: "Mae'r cymhelliad y tu 么l i'r wasgfa ariannol sy'n effeithio ysbytai yng Nghymru yn wahanol i'r hyn sy'n sail i sgandal Canol Swydd Stafford, ond o'n safbwynt ni, yr un yw'r canlyniad, anelu i fwrw targedau a chydbwysedd ariannol ar draul gofal o ansawdd."

Mae saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn y broses ar hyn o bryd o geisio bwrw targedau ariannol cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae'r mwyaf o rain, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn rhagweld efallai y bydd mewn dyled o 拢3.9 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, er gwaethaf iddyn nhw dderbyn 拢15 miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Mae dadansoddiad 91热爆 Cymru yn nodi bod byrddau iechyd eraill hefyd yn wynebu heriau tebyg, ond bod rhai yn rhagweld y byddan nhw'n llwyddo i aros o fewn eu cyllidebau.

Mewn ymateb i lythyr yr ymgynghorwyr, fe wnaeth Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, ganmol meddygon am fod yn ddigon dewr i awgrymu'r problemau.

Mae'n galw ar Mr Drakeford i "ymyrryd ar frys" a'r unig ateb syml meddai yw bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyllideb iechyd Cymru.

"Mae cwtogi nifer y gwelyau i wneud arbedion ariannol yn arwain at unedau brys gorlawn sydd wedyn yn cael effaith ar yr ambiwlansys y tu allan i ysbytai ac yn eu hatal rhag ymateb i alwadau brys," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol