91热爆

Balchder Wrecsam o ennill Tlws FA Lloegr yn Wembley

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Craig Duggan

Wrecsam yw'r clwb cyntaf o Gymru i ennill Tlws FA Lloegr.

Fe wnaethon nhw hynny mewn g锚m ddramatig yn Wembley ddydd Sul yn erbyn Grimsby.

Dyma oedd ymweliad cyntaf y Dreigiau 芒 Wembley, gydag Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd wedi bod yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Wedi'r 90 munud roedd y ddau d卯m sy'n chwarae yn Uwchgynghrair y Blue Square yn gyfartal 1-1 ac wedi'r amser ychwanegol doedd dim modd eu gwahanu.

Ond Wrecsam oedd yn fuddugol wedi'r ciciau o'r smotyn wedi ergydion cywir o'u cymharu 芒 dau ymgais gwael cyntaf Grimsby.

Yn 么l rheolwr-chwaraewr Wrecsam, Andy Morrell, mae'r fuddugoliaeth mor bwysig i'r clwb ac mae'n "fuddugoliaeth i'r cefnogwyr" sydd wedi bod mor gefnogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Twls yr FA

'Dal i fynd, dal i ymosod'

Ond pwysleisiodd mai ennill dyrchafiad yn 么l i'r gynghrair b锚l-droed sydd bwysica'.

"Mae hi wedi bod yn ddeuddydd gwych. Dwi'n mynd i gofio hyn am amser hir iawn," meddai.

"Dwi'n crynu, mae'n anghredadwy.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden ni'n llwyddo, ond roedden ni'n wych.

"Fe wnaethon ni ddal i fynd, dal i ymosod ond roedd eu golwr nhw'n wych.

Disgrifiad,

Dafydd Gwynn yn cael ymateb cefnogwyr Wrecsam i'r fuddugoliaeth

"Rhaid edrych ymlaen r诺an at y gemau yn y gynghrair i sicrhau dyrchafiad."

Ymhlith y rhai wnaeth longyfarch y clwb yr oedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd fod y canlyniad yn "fuddugoliaeth hanesyddol".

"Llongyfarchiadau lu i Wrecsam ar eu buddugoliaeth hanesyddol," meddai.

"Mae llwyddiant y clwb, nid yn unig yn wych i Wrecsam ond hefyd yn fwy o newyddion gwych i b锚l-droed Cymru ac i chwaraeon yng Nghymru."

Dyrchafiad

Fe wnaeth dalu teyrnged i Morrell wrth gyfeirio at gyfnod anodd diweddar i'r clwb adawodd y gynghrair b锚l-droed yn 2008.

Disgrifiad,

Gareth Blainey yn holi cyn-chwaraewr Wrecsam, Wayne Phillips.

"Mae Andy Morrell wedi gwneud gwaith gwych, arwain y clwb drwy gyfnod anodd a sicrhau eu bod yn enillwyr.

"Drwy hyn ac ymdrechion y chwaraewyr, mae Tlws FA Lloegr ar ei ffordd i Gymru am y tro cyntaf erioed.

"Llongyfarchiadau i'r Dreigiau."

Mae Wrecsam yn obeithiol am ddyrchafiad o'r Blue Square ac fe fyddan nhw'n teithio i Hyde ddydd Sadwrn.

Mae Wrecsam yn drydydd yn y tabl, pum pwynt tu 么l i Kidderminster sydd ar y brig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol