'Dyfodol ansicr' i brifysgolion Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli cyfarwyddwyr ariannol holl brifysgolion Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o adael y sector "gyda dyfodol ariannol ansicr".
Polisi Llywodraeth Cymru yw talu ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru lle bynnag maen nhw'n dewis astudio yn y DU.
Mae hynny'n golygu bod pob myfyriwr yn talu oddeutu 拢3,500 gyda'r llywodraeth yn talu'r gweddill, ond mae Gr诺p Cyfarwyddwyr Ariannol Addysg Uwch Cymru yn dweud bod y polisi yn eu gadael "mewn cyfnod sylweddol o lanw a thrai".
Daw peth o arian prifysgolion Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ond dywed y gr诺p "nad yw cost lawn (y polisi) yn wybyddus", a bod "amheuaeth yn parhau a fydd cyllideb dysgu CCAUC yn ddigonol i dalu'r Grant Cefnogi Ffioedd".
'Amgylchiadau heriol'
Ond wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Addysg Uwch Cymru - y corff sy'n cynrychioli holl brifysgolion y wlad:
"Mae'r sector addysg uwch yng Nghymru yn gweithredu mewn amgylchiadau economaidd heriol ar hyn o bryd.
"Nid yw hyn fodd bynnag yn unigryw i Gymru, ac mae'r un peth yn wir am y sector ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
"Mae'r datganiad gan Gr诺p Cyfarwyddwyr Ariannol Addysg Uwch Cymru yn rhoi papur i ni weithio arno sy'n son am ystod eang o ddatblygiadau wrth i ni fynd i mewn i flwyddyn academaidd arall (2013-14).
"Fel sy'n arferol wrth symud i drefniadau newydd, ac fel mae'r gr诺p eu hunain yn cydnabod, mae hynny bob tro'n arwain at gyfnod o newid, ac mae'n llawer rhy gynnar i benderfynu sut y bydd y trefniadau newydd yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod."
'Incwm i gynyddu'
Roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr honiadau yn llwyr, gan ddweud mewn datganiad:
"Fel yr ydym wedi dweud sawl tro, mae'r polisi ffioedd dysgu yng Nghymru yn gynaliadwy ac wedi ei gostio'n llawn. Bydd y polisi yn aros mewn lle am oes y Cynulliad hwn.
"Er mai CCAUC sy'n gyfrifol am ariannu'r sector Addysg Uwch yng Nghymru, gallwn gadarnhau y bydd y sector addysg uwch yn sicrach o dan y drefn ffioedd dysgu newydd nag y byddai wedi bod yn flaenorol.
"Mae'r rhagolygon diweddaraf yn dangos y bydd yr incwm sydd ar gael i'r sector yng Nghymru o ffioedd dysgu a CCAUC yn cynyddu'n sylweddol yn ystod oes y llywodraeth yma.
"Cafodd hyn ei gyflawni yn erbyn cefndir o doriadau cyllido gan lywodraeth y DU."
'Gimig etholiad'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Angela Burns AC: "Rydym wedi rhybuddio ers i'r polisi yma gael ei gyhoeddi mai gimig cyn etholiad oedd hwn oedd heb ei gostio'n llawn ac yn annhebyg o ddarparu seiliau ariannol cadarn i Addysg Uwch yng Nghymru.
"Nod y cymhorthdal oedd gwella mynediad i addysg uwch i fyfyrwyr o Gymru, ond mae nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru yn disgyn.
"Eisoes mae'r Gweinidog Addysg wedi bod yn newid rhai elfennau o'r polisi er mwyn talu amdano drwy osod uchafswm ar nifer y myfyrwyr a chosbi prifysgolion sy'n gor-recriwtio, a gorchymyn prifysgolion i ostwng eu ffioedd."
Yn 么l Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru:
"Mae'r prifysgolion yn hollbwysig i'n bywyd diwylliannol ac mae ein ffyniant economaidd ac rydym angen polisi fydd yn eu hamddiffyn yn y tymor hir.
"Os na fydd Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael ag annhegwch y system, fe fyddan nhw'n parhau i dalu cymhorthdaliadau i brifysgolion eraill a hynny ar draul prifysgolion Cymreig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012