91热爆

Cymru 30-3 Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Mike Phillips yn ymosodFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mike Phillips yn ymosod

Mae Cymru wedi curo Lloegr a dal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd y fuddugoliaeth yn un ysgubol, gyda Alex Cuthbert yn sgorio dau gais.

Hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf i Gymru yn erbyn Lloegr.

Daeth gweddill pwyntiau Cymru o Leigh Halfpenny, pedair cic gosb, ac wyth pwynt o droed Dan Biggar.

Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl 9-3 ond roedd Lloegr dal yn y g锚m.

Disgrifiad,

Sylwadau'r bachwr Ken Owens

Yn yr ail hanner, roedd Cymru ben ac ysgwydd uwchben Lloegr.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi ennill eu pedair gem ddiwethaf yn y bencampwriaeth ar 么l colli yn y g锚m agoriadol yn erbyn Iwerddon.

Ar 么l y g锚m dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru Rob Howley fod yn teimlad yn deimlad gwell na'r llynedd pan lwyddodd Cymru i gipio'r Gamp Lawn.

"Roedd y t卯m yn anhygoel.

"Roeddem wedi siarad am ddisgyblaeth a'n hagwedd tuag at y g锚m.

"I lwyddo fel yr ydym wedi llwyddo ar 么l y 30 munud cyntaf yn erbyn Iwerddon, mae'n anhygoel.

"Roedd yna ddewrder anhygoel, ro' nhw ben ac ysgwydd yn well na Lloegr.

Mae Lloegr yn gorffen yn ail yn yn bencampwriaeth.

Byddai buddugoliaeth yng Nghaerdydd wedi sicrhau'r Gamp Lawn i Loegr.

Roedd yn rhaid i Gymru ennill o fwy na saith pwynt er mwyn dal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cymru : 15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-Jonathan Davies, 12-Jamie Roberts, 11-George North, 10-Dan Biggar, 9-Mike Phillips, 1-Gethin Jenkins (Capten), 2-Richard Hibbard, 3-Adam Jones, 4-Alun Wyn Jones, 5-Ian Evans, 6-Sam Warburton, 7-Justin Tipuric, 8- Toby Faletau.

Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Paul James, 18-Scott Andrews, 19-Andrew Coombs, 20-Aaron Shingler, 21-Lloyd Williams, 22-James Hook, 23-Scott Williams.

Lloegr : 15-Alex Goode, 14-Chris Ashton, 13-Manu Tuilagi, 12-Brad Barritt, 11-Mike Brown, 10-Owen Farrell, 9-Ben Youngs; 1-Joe Marler, 2-Tom Youngs, 3-Dan Cole, 4-Joe Launchbury, 5-Geoff Parling, 6-Tom Croft, 7-Chris Robshaw (capten), 8-Tom Wood.

Eilyddion: 16-Dylan Hartley, 17-David Wilson, 18-Mako Vunipola, 19-Courtney Lawes, 20-James

Ffynhonnell y llun, AP