Newid trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi amlinellu sut y mae'n bwriadu newid trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol.
Roedd y cynlluniau wedi'u cyflwyno mewn Papur Gwyrdd a chafodd ymgynghoriad ei gynnal y llynedd ar bedwar opsiwn posib.
Cadarnhaodd Mr Jones ddydd Mawrth y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw 'mlaen 芒 thri o'r pedwar cynnig a ymgynghorwyd arnyn nhw, sef:
Bydd y Cynulliad yn symud yn barhaol o dymhorau pedair i bum mlynedd
Er mwyn osgoi effaith anghyfartal ar bleidiau llai, bydd ymgeiswyr yn cael sefyll ar ran etholaethau a rhanbarthau ar yr un pryd - mae hynny wedi'i wahardd ar hyn o bryd
Fydd Aelodau Cynulliad ddim yn cael bod yn Aelodau Seneddol ar yr un pryd
Dim newid i'r ffiniau
Fydd y pedwerydd opsiwn - i newid ffiniau etholaethol y Cynulliad - ddim yn cael ei weithredu nawr, sy'n golygu y bydd y ffiniau presennol yn parhau fel ag y maen nhw.
Ar hyn o bryd mae ffiniau etholaethau'r Cynulliad yn union fel etholaethau San Steffan.
Ond ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd y Comisiwn Ffiniau gynigion pellgyrhaeddol i leihau nifer seddau Aelodau Seneddol Cymru o 40 i 30.
O dan y Ddeddf Cofrestru a Gweinyddiaeth Etholiadol 2013, bydd y pedwar Comisiwn Ffiniau yn y DU nawr yn cyflwyno adroddiad ar eu hargymhellion am etholaethau seneddol newydd yn 2018.
Oherwydd hynny, penderfynodd y llywodraeth nad oedden nhw am barhau 芒'r cynlluniau i addasu ffiniau etholaethol y Cynulliad, fel y cynigwyd yn y Papur Gwyrdd.
"Blaenoriaeth y llywodraeth ar hyn o bryd yw'r heriau economaidd a chymdeithasol sy'n wynebu'r wlad," meddai Mr Jones.
"Ond dyw hynny ddim yn golygu y gallwn ni anwybyddu'r angen i gynnal ein systemau gwleidyddol.
"Ers ennill grym yn 2010, mae'r llywodraeth wedi ceisio gwneud ein system wleidyddol yn decach a mwy tryloyw.
"Mae'r ymgynghoriad hwn wedi rhoi cyfle i bobl Cymru fynegi eu barn ar newidiadau posib i'r system yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r argymhellion a wnaed.
"Bydd y newidiadau hyn yn ein caniat谩u i barhau i gryfhau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a bydd y llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi'r newidiadau hyn mor fuan 芒 phosib."
Ymateb
Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r cynlluniau a dywedodd llefarydd ar eu rhan ei bod yn "hen bryd diddymu'r rheol yn erbyn ymgeiswyr yn sefyll ddwywaith", a gyflwynwyd gan Llafur yn 2006.
"Byddai'n well gan Blaid Cymru ddefnyddio'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ond o dan Aelodaeth Bresennol Aelodau Ychwanegol, dyw hi ond yn deg fod gan etholwyr ddewis llawn o ymgeiswyr.
"Ar ddiwedd y dydd, fel rydyn ni wedi'i ddweud wrth Gomisiwn Silk, rydym yn credu y dylai'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid gan y Senedd yn San Steffan."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn croesawu'r penderfyniad i ganiat谩u ymgeiswyr i sefyll ar ran etholaethau a rhanbarthau a dywedodd llefarydd ar eu rhan:
"Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth y DU yn bwriadu atal Aelodau Cynulliad rhag bod yn Aelodau Seneddol yr un pryd. Mae'n amhosib cyflawni dyletswyddau'r ddwy r么l gyda'i gilydd felly mae ond yn iawn i Lywodraeth y DU gynnig y newidiadau sylweddol hyn."
Yn 么l Stephen Brooks, cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru:
"Mae gwyrdroi'r gwaharddiad yn dod 芒 ni'n 么l at y patrwm traddodiadol ar gyfer systemau etholiadol fel hyn. Mae 'na dystiolaeth o adolygiadau mewn gwahanol wledydd i hyn, fel yn Yr Alban a Seland Newydd. Y casgliad yw nad oes unrhyw gyfiawnhad dros waharddiad.
"Mewn amseroedd anodd, a chyda Cynulliad mor fychan, allwn i ddim fforddio cael ein talent gorau ar y fainc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2012
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Mai 2012