Protest i gofio am drychineb niwclear Fukushima ddwy flynedd yn 么l
- Cyhoeddwyd
Cafodd protest ei chynnal ger Ynys M么n ddydd Llun i nodi dwy flynedd ers trychineb Fukushima yn Japan.
Roedd hyd at 20 o bobl wedi dod at Bont Menai i ddangos eu gwrthwynebiad i gael atomfa niwclear arall ar yr ynys.
Cafodd y brotest ei threfnu gan fudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB) a'r pwrpas, yn 么l y mudiad, oedd "dangos bod argyfwng Fukushima yn parhau, a thanlinellu peryglon ynni niwclear i ddynoliaeth a'r amgylchedd."
Roedd dros 18,000 o bobl wedi cael eu lladd neu wedi mynd ar goll wedi tswnami a daeargryn enfawr yn Japan ar Fawrth 11, 2011.
Roedd y digwyddiad hefyd wedi taro gorsaf niwclear Fukushima.
Ers hynny, mae'r rhan fwyaf o adweithyddion niwclear Japan wedi cael eu diffodd ac mae yna drafodaeth eang ar ynni niwclear yn y wlad.
'Effaith am flynyddoedd'
Ym mis Tachwedd, cadarnhawyd fod cwmni Hitachi, o Japan, wedi cwblhau cytundeb i brynu cynllun niwclear Horizon, sy'n cynnwys codi atomfa newydd yn Wylfa.
Roedd y cynllun yn cael ei werthu gan gwmn茂au RWE ac E.ON o'r Almaen.
Dywedodd Dylan Morgan ar ran mudiad PAWB ei bod yn hollbwysig cofio am drychinebau fel Fukushima wrth drafod codi adweithydd newydd.
"Pam mae rhywbeth difrifol yn digwydd mewn gorsaf niwclear, damwain fel hyn, mae'r effaith i'w deimlo am flynyddoedd ac megis dechrau maen nhw efo'r gwaith o wneud y safle yn ddiogel," meddai.
"Y peth pwysig ydy bod 'na bresenoldeb yma a bod ni'n atgoffa pobl o'r drychineb ofnadwy sydd wedi digwydd yn Fukushima a hefyd yn Chernobyl, achos mae effaith y trychinebau yma'n dal i gael ei deimlo, a hynny am flynyddoedd maith i ddod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2012