Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro am ambiwlansys yn gorfod aros
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ar 么l i nifer o ambiwlansys orfod aros y tu allan i ysbyty ddydd Llun.
Yn 么l Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cynnydd yn nifer y cleifion a'r rhai yn dod i'r adran ddamweiniau oedd y rheswm dros yr oedi.
Roedd adroddiadau fod hyd at naw o ambiwlansys yn aros y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam ar un adeg.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd fod gwelyau eraill yn cael eu hagor a staff ychwanegol yn cael eu galw mewn i ddelio gyda'r sefyllfa.
Y llynedd roedd 'na gwyno am oedi yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Ar y pryd fe wnaeth yr Arolygiaeth Gofal Iechyd yng Nghymru 20 o argymhellion ar gyfer gwelliannau wedi iddi ddod i'r amlwg fod pum ambiwlans yn gorfod aros y tu allan i adrannau brys yn rheolaidd.
Pwysau ychwanegol
Ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Dros yr wythnosau diwetha' mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y cleifion s芒l sy'n cael eu cludo i'r ysbyty, sydd wedi rhoi pwysau cynyddol ar welyau wrth i gleifion orfod aros yn hirach yn yr ysbyty na'r arfer.
"Mae pwysau ar yr adran frys yn newid yn ystod y dydd, ac o ddydd i ddydd, ac mae'r adran ddamweiniau yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd yn delio 芒 nifer uchel o gleifion."
Dywedodd y llefarydd fod y bwrdd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a meddygon teulu i geisio gostwng nifer y cleifion a lleihau'r oedi yn yr adran ddamweiniau pan ei bod yn bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013