Problemau wrth sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad gan 91热爆 Cymru'n dangos y gallai problemau annisgwyl achosi goblygiadau difrifol i gorff amgylcheddol newydd sy'n cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.
Mae wedi dod i'r amlwg fod yna drafferthion gyda system dechnoleg gwybodaeth newydd a bod 'na gostau ychwanegol oherwydd diffyg yn y cyllid pensiwn.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dod i fodolaeth ar Ebrill 1, wrth i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru gael eu huno.
Y nod yw cael corff mwy effeithlon, sy'n cyflawni amcanion amgylcheddol gwell ac yn galluogi arbedion o 拢158 miliwn dros 10 mlynedd, fyddai wedyn yn cael eu hail-fuddsoddi yn yr amgylchedd ac yn economi Cymru.
Eisoes mae Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, wedi dweud y bydd y corff newydd yn "arwain at ddarpariaeth fwy effeithlon, gwell gwerth am arian a gwell canlyniadau i bobl Cymru" ac y byddai "sefydlu corff newydd yn hanfodol ar gyfer dyfodol cynaliadwy i bobl, amgylchedd ac economi Cymru".
Problemau
Ond mae 'na berygl na fydd system technoleg gwybodaeth (TG) y corff newydd yn barod mewn pryd.
Heblaw am alluogi staff i ffonio ac e-bostio ei gilydd, mae'n hanfodol ar gyfer sicrhau bod y tri chorff yn gallu integreiddio'n effeithiol ac yn ddidrafferth.
Yn ogystal, fydd y 拢19 miliwn oedd wedi'i glustnodi yn yr achos busnes ar gyfer diffyg yn y cyllid pensiwn - er mwyn uno staff o fewn un sefydliad, gyda'r un amodau a thelerau - ddim yn ddigon.
Wedi cais gan 91热爆 Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ei bod nawr yn ffafrio opsiwn a allai gostio llawer mwy dros 30 mlynedd.
Roedd e-bost a dderbyniodd 91热爆 Cymru'n dweud "y gallai'r ddyled bosib fod tua 拢50 miliwn," a bod hynny "wedi'i amcangyfrif ar sail gwerth ariannol presennol".
拢50 miliwn
Mae 'na bedwar opsiwn ar gael i'r llywodraeth, a oedd yn cynnwys talu 拢35 miliwn pan oedd staff Asiantaeth Amgylchedd Cymru'n trosglwyddo eu pensiynau unrhyw bryd ar 么l Ebrill 1.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i gymeradwyo opsiwn 4 (拢50 miliwn) am mai "dyna'r unig opsiwn sydd ag unrhyw sicrwydd o gael ei gyflawni erbyn Ebrill 1, 2013."
Dywedodd Emyr Roberts, prif weithredwr CNC, a ddechreuodd ar ei waith fis Tachwedd diwetha', y byddai'r broblem gyda'r system TG yn achosi trafferthion.
Ond dywedodd nad oedd yn ymwybodol o faint y diffyg yn y cyllid pensiwn, gan fod yr achos busnes wedi'i etifeddu gan Lywodraeth Cymru a gweision sifil.
"Dydw i ddim yn gyfarwydd 芒'r ffigurau hynny, dydw i ddim yn gwybod beth fyddai'r ffigwr hwnnw," meddai.
"Fel rwy'n ddeall, mae trafodaethau'n parhau yngl欧n 芒 phensiynau felly mae 'na rai opsiynau ar gael.
'Rhuthro'
Yn 么l Jon Owen Jones, cadeirydd presennol Comisiwn Coedwigaeth Cymru, mae 'na dystiolaeth amlwg fod y broses o uno'r tri chorff yn cael ei ruthro a'i fod yn debygol o gostio mwy na'r disgwyl.
Dywedod Mr Jones: "Rwy'n credu bod uno'r tri sefydliad yr un pryd yn ofyn mawr, a bod gwneud hynny mor gyflym yn ofyn hyd yn oed mwy.
"Mae'r adran arweiniol wedi bod yn rhy ymroddedig wrth gyflwyno'r polisi am mai nhw feddyliodd amdano yn y lle cynta'.
"Byddai wedi bod yn well petai rhywun oedd yn gallu bod ychydig yn fwy gwrthrychol wedi edrych arno a dweud "mae 'na ychydig o broblem yma, beth am i ni arafu a gwneud pethau'n wahanol?".
Eisoes mae arian ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer sefydlu CNC, nad oedd wedi'i gynnwys yn yr amcangyfrif gwreiddiol.
Dywedodd nifer o ffynonnellau wrth 91热爆 Cymru fod:
拢2.86 miliwn wedi'i drosglwyddo i CNC o'r tri chorff presennol
拢1.1 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer ailstrwythuro Fframwaith Amgylcheddol Cenedlaethol
拢3.5 miliwn ar gael oherwydd tanwario wrth ddelio gyda TB ymhlith gwartheg.
Yn ogystal, mae 拢2 miliwn wedi'i gymryd o gyllid blwyddyn nesa' i geisio lleddfu'r problemau TG.
Yn 么l yr arbenigwr ariannol, Gweirydd ap Gwyndaf: "Y cwestiwn dyw'r llywodraeth ddim wedi eu hateb yw a ydyn nhw'n mynd i warantu hyn neu ydyn nhw'n mynd i ddisgwyl i'r sefydliad newydd ariannu unrhyw ddyled mas o'u cyllideb nhw'u hunain?
"Os yw'r ddyled yn gallu tyfu, bod dim cap arni, yna mae angen gwybod pwy sy'n mynd i orfod ariannu'r peth achos dyw'r sefydliad newydd ddim yn mynd i fod eisiau cymryd rhwymedigaeth 'mlaen nad yw'n gwybod beth yw ei hyd a'i lled hi."
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maent yn cydnabod y bydd y cynllun pensiwn yn costio mwy nag a nodwyd yn y cynllun busnes gwreiddiol, ond bod dadl economaidd gref dros sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011