Clogyn Aur Yr Wyddgrug yn dod i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Clogyn Aur Yr Wyddgrug yn cael ei harddangos yng Nghymru yr haf yma.
Bydd y clogyn yn cael ei benthyg gan yr Amgueddfa Brydeinig a bydd yn cael ei harddangos yng Nghaerdydd a Wrecsam.
Gwnaethpwyd y clogyn aur seremon茂ol tua 3,700 o flynyddoedd yn 么l yn ystod yr Oes Efydd Cynnar.
Cafodd ei ddarganfod ym Mryn yr Ellyllon, sy'n ardal o'r Wyddgrug bellach, ym 1833.
Daeth y clogyn yn rhan bwysig o arddangosfeydd hanes yr Amgueddfa Brydeinig, a chafodd ei hadfer yn y 1960au.
Mae ymchwil diweddar wedi awgrymu y gallai gwisgwr y fantell wedi bod yn fenyw.
Bydd y fantell yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ac Amgueddfa Wrecsam.
'Campwaith amhrisiadwy'
Dywedodd David Anderson, cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru: "Rydym wrth ein boddau y bydd y campwaith Oes Efydd amhrisiadwy o ogledd ddwyrain Cymru yma'n cael ei harddangos yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
"Mae cael un o arteffactau mwyaf pwysig o'r Oes Efydd Ewropeaidd 'n么l yng Nghymru, lle cafodd ei ddarganfod yn wreiddiol, yn gyfle gwych i bobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau ac i ddarganfod mwy am eu treftadaeth."
Dywedodd Neil Rogers, arweinydd Cyngor Wrecsam: "Y tro diwethaf i'r fantell ddod i Wrecsam yn 2005 fe ddenodd 11,500 o ymwelwyr o fewn 12 wythnos.
"Mae hyn yn dangos y lefel enfawr o ddiddordeb yn archaeoleg a'n treftadaeth cynhanesyddol ymhlith y cyhoedd lleol.
"Felly dwi wir yn edrych ymlaen at weld y fantell yn dychwelyd i'r dref."
Bydd y fantell yn Amgueddfa Cymru o Orffennaf 2 tan Awst 4 ac yna yn Amgueddfa Wrecsam rhwng Awst 7 a Medi 14 2013.