91热爆

Heddluoedd yn torri'r Ddeddf Diogelu Data

  • Cyhoeddwyd
Car heddluFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwnaed cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu Cymreig

Mae heddluoedd Cymru wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data 62 o weithiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

O ganlyniad mae pedwar person wedi cael eu diswyddo ac 14 wedi ymddiswyddo.

Mae cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu Cymreig gan 91热爆 Newyddion Ar-lein wedi datgelu nifer o achosion ble mae plismyn a staff wedi defnyddio system gyfrifiadurol genedlaethol yr heddlu er mwyn cael gafael ar fanylion personol i ddibenion heb fod yn gysylltiedig 芒 phlismona yn 2011 a 2012.

Cofnododd Heddlu De Cymru 28 achos lle y gwnaeth swyddog neu staff dorri'r ddeddf.

Diswyddwyd un am "wirio partner a thrydydd person ar y system".

O'r naw ymddiswyddiad, cafodd tri rybudd ffurfiol gan yr heddlu yn ogystal. Roedd y rhain am "wirio'r gronfa ddata yn ymwneud 芒 chydnabod", "am newid ei g/chofnod ei hun ar y system", ac am "wirio pobol ar system yr heddlu am ddibenion heb fod yn gysylltiedig 芒 phlismona".

Cafwyd un arall, a ymddiswyddodd, yn euog mewn llys ar 么l "ymchwilio i, a datgelu gwybodaeth am drydydd person".

Ymddiswyddodd y pump arall am:

  • wirio digwyddiad yn ymwneud 芒 pherthynas;

  • gwirio digwyddiad yn ymwneud 芒 chyn bartner;

  • camddefnyddio mynediad i'r system;

  • gwirio aelodau teuluol ar y gronfa ddata;

  • mynediad amhriodol i ffilm o ddigwyddiad.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r De eu bod yn trin y mater yn ddifrifol iawn.

"Hysbysir ein holl weithwyr am y polisiau a phrosesau sydd gennym i reoli'r defnydd o systemau mewnol, ac ym mhob achos ble mae'r rheolau gwarchod data wedi eu torri, rydym wedi gweithredu, gan gynnwys erlyniad troseddol pan yn briodol.

"Mae'r rhan fwyaf o'r achosion dan sylw wedi deillio o weithredu cadarn gan y llu, gwaith a gwblhawyd mewn modd rhagweithiol

"Mae mwyafrif helaeth staff yr heddlu yn parchu ac yn gweithredu oddi fewn i bolisiau a gweithdrefnau gwarchod data."

'Poeni'

Wrth siarad ar raglen y Post Cynta fore Iau, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael:

"Wrth gwrs, dwi'n poeni ond mae Heddlu De Cymru yn llawer iawn mwy o ran nifer y bobl sy'n gweithio i'r heddlu na'r tri forces arall. Wedyn f'ysech chi'n disgwyl i'r rhif fod yn fwy.

Disgrifiad,

Kate Crockett yn holi Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael

"Ond rhaid dweud mai rhan o'r peth ydy dangos bod ni'n edrych ar bethau fel hyn yn ddifrifol.

"Mae'r ffaith fod y rhan fwya' ohonyn nhw'n mynd i achos troseddol yn dangos hynny, ac mae'r neges yn mynd allan i bobl sy'n gweithio i'r heddlu fod hyn yn bwysig.

"Mae'n rhaid amddiffyn gwybodaeth am bobl, yn enwedig pan mae'n bersonol."

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gofnodi 14 achos o gael mynediad heb awdurdod i gudd-wybodaeth yr heddlu, 9 achos o ddadlennu gwybodaeth bersonol yn ddamweiniol ac un achos o ddadlennu data'n ddamweiniol. Diswyddwyd dau berson o ganlyniad.

Yn ogystal, fe wnaeth un person ymddiswyddo am gael mynediad heb awdurdod a dadlennu gwybodaeth yr heddlu, a chafodd ei h/erlyn yn ogystal.

Disgyblu

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae gwarchod a diogelu data a chudd-wybodaeth yn bwysig iawn i Heddlu Gogledd Cymru ac mae'n ymchwilio'n drylwyr i bob achos honedig o dorri'r Ddeddf Gwarchod Data.

"Cynhelir archwiliadau yn rheolaidd ac os darganfyddir bod aelod o Heddlu Gogledd Cymru wedi torri rheolau diogelu data yna bydd yn cael ei ddisgyblu.

"Yn yr achosion mwyaf difrifol mae Heddlu Gogledd Cymru wedi erlyn a bydd yn parhau i erlyn troseddau o'r fath mewn llys troseddau yn ychwanegol at ddwyn achosion camymddygiad mewnol".

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick QC, "Mae yna achosion ble mae pobl wedi cael mynediad i neu ddatgelu gwybodaeth yn amhriodol... a gallwch weld bod hynny yn cael ei gymryd o ddifri a gall arwain at ddiswyddo gweithwyr.

"Mae Ffederasiwn yr Heddlu ac Unsain yn gweithio i dynnu sylw staff a swyddogion at y peryglon.

"Byddaf yn monitro nifer y digwyddiadau yng Ngogledd Cymru, ond mae'n galonogol fod yna systemau monitro, a threfniadau chwythu'r chwiban a rheolaeth yn bodoli, i sicrhau ein bod yn dal unigolion ac yn delio gyda nhw'n briodol."

Roedd tri achos yn Heddlu Gwent yn 2011 a thri achos arall yn 2012.

Yn 2011 cafodd aelod o staff ei ddiswyddo yn ystod ei gyfnod prawf am "gamddefnyddio systemau'r heddlu"; fe wnaeth swyddog yr heddlu ddatgelu ffotograff ac ymddiswyddodd mewn perthynas 芒 materion eraill; a chafodd swyddog yr heddlu rhybudd ysgrifenedig am "ddefnyddio systemau'r heddlu at ddibenion nad oeddent yn ymwneud 芒 phlismona".

'Pob ymdrech'

Yn 2012, ymddiswyddodd aelod o staff ar 么l derbyn rhybudd troseddol am ddatgelu gwybodaeth; ymddiswyddodd swyddog cymorth cymunedol yr heddlu tra roedd wedi'i ddiarddel a chyn unrhyw gyhuddiadau, a hynny am "ddefnyddio systemau'r heddlu at ddibenion nad oeddent yn ymwneud 芒 phlismona"; ymddiswyddodd aelod o staff am "dderbyn a datgelu data personol".

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob staff yn ymwybodol o gyfrifoldebau'n ymwneud 芒 gwarchod data ac yn ein systemau cyfrifiadurol mae adnoddau gwirio cadarn sy'n sicrhau cymaint 芒 phosibl mai dim ond staff sydd wedi cael asesiad risg all wylio'r manylion.

"Pan fo rheolau'n cael eu torri neu risg o hynny, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ac rydym yn delio 芒'r mater yn briodol.

"Dylid pwysleisio bod y mwyafrif llethol o staff a swyddogion yn dilyn y polis茂au sy'n ymwneud 芒 gwarchod data ac yn rheolaidd mae'r heddlu yn eu hatgoffa o'u cyfrifoldeb a'r hyn all ddigwydd os yw rheolau'n cael eu torri."

'Gwybodaeth sensitif'

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi tri achos dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac o ganlyniad rhoddwyd tri rhybudd ysgrifenedig terfynol.

Yn Rhagfyr 2011 defnyddiodd aelod o staff systemau'r heddlu at ddefnydd personol; ym Mawrth 2012 cynhaliodd aelod o staff wiriad ar gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu er budd personol; ac yn Hydref 2012 "torrodd swyddog heddlu safonau ymddygiad proffesiynol mewn perthynas 芒 chyfrinachedd".

Dywedodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: "Mae swyddogion yr heddlu a staff yn medru cael mynediad at wybodaeth bersonol hynod sensitif.

"Rydym yn disgwyl i heddluoedd wneud ymdrechion rhagweithiol sylweddol i sicrhau bod mynediad i'w cofnodion ar gyfer dibenion cyfiawn ac i weithredu lle bo drygioni.

"Mae swyddogion cyhoeddus sy'n camddefnyddio eu safleoedd yn medru wynebu canlyniadau difrifol gan gynnwys cael eu herlyn o dan y Ddeddf Diogelu Data".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol