Llong y Ciudad de Cadiz yn sownd am wythnos arall
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid rhoi'r gorau i gynlluniau fore Sadwrn i geisio rhyddhau llong gargo a aeth yn sownd ar dwyni tywod ym mhorthladd Mostyn yn Sir y Fflint ddydd Mercher.
Fe aeth y Ciudad de Cadiz sy'n cludo adenydd o ffatri Airbus ym Mrychdyn i Ffrainc i drafferthion yn ystod gwyntoedd cryfion.
Fe fydd ymdrechion pellach i symud y llong pan fydd yr amodau'n fwy ffafriol ymhen wythnos.
Dywedodd Jim O'Toole o Borthladd Mostyn na fyddai'r llanw yn debyg o fod yn ddigon uchel tan ddydd Sadwrn nesaf.
Dywed Gwylwyr y Glannau nad yw'r llong mewn perygl wedi'r digwyddiad ger porthladd Mostyn am tua 1:45pm ddydd Mercher.
Gadawodd y criw o 23 oedd ar fwrdd y Ciudad de Cadiz yn ddiogel ddydd Mercher.
Dywedodd Airbus nad yw hwn yn "fater o ddiogelwch" ac nad oedd "unrhyw beth i bryderu amdano".
Roedd y llong yn disgwyl i fynd i mewn i'r porthladd er mwyn codi adenydd a gafodd eu gwneud yn ffatri Airbus er mwyn eu cludo i ffatri adeiladu'r cwmni yn Toulouse yn Ffrainc.
Mae'r llong yn un o dair sy'n cael eu defnyddio i gludo adenydd awyren yr Airbus A380.
Roedd gwyntoedd yn hyrddio ar gyflymder o 52 not pan ddaeth y llong yn rhydd o'i hangor y tu allan i'r porthladd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013