Y ffordd ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac Awdurdod S4C wedi dod i gytundeb am sut y bydd y sianel yn gweithredu o fis Ebrill 2013.
Dyna pryd y bydd S4C yn symud tuag at gael ei hariannu'n bennaf gan y 91热爆, a hynny tan 2017.
Cafodd y cytundeb ei gymeradwyo mewn cyfarfodydd ar wah芒n o Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac Awdurdod S4C ym mis Ionawr.
Yn 么l y ddau gorff darlledu mae'r cytundeb yn sicrhau annibyniaeth S4C, ac yn amlinellu atebolrwydd addas ar gyfer Ymddiriedolaeth y 91热爆 am y cyllid o ffi'r drwydded a fydd yn mynd i'r sianel.
Ers i'r Ysgrifennydd Diwylliant ar y pryd, Jeremy Hunt, gyhoeddi ym mis Hydref 2010 y byddai'r 91热爆 yn gyfrifol am gyllido S4C yn bennaf, mae rhai o'r gwrthbleidiau a grwpiau megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn feirniadol gan ddweud y byddai'n peryglu annibyniaeth olygyddol S4C.
Ymgynghoriad
O fis Ebrill, bydd mwyafrif incwm cyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu gan y 91热爆 o ffi'r drwydded.
Mae'r cytundeb newydd yn sicrhau y bydd Awdurdod S4C yn parhau i fod yn gorfforaeth statudol annibynnol, a bydd yn derbyn cyllid hefyd gan lywodraeth y DU ac yn cynhyrchu refeniw masnachol ei hun.
Fe ddaw'r cytundeb yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a lansiwyd gan yr Ymddiriedolaeth a'r Awdurdod yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 ym Mro Morgannwg.
Dywed Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac Awdurdod S4C eu bod wedi bod ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ac ers i'r ymgynghoriad ddod i ben wedi bod yn ystyried newidiadau i'r cytundeb.
'Datblygiad hanesyddol'
Heddiw, dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y 91热爆, yr Arglwydd Patten: "Rwyf wrth fy modd bod Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac Awdurdod S4C wedi cymeradwyo'r Cytundeb Gweithredu hwn, sy'n ymhelaethu'r bartneriaeth sydd gennym eisoes yng Nghymru.
"Trwy'r Cytundeb hwn rwyf o'r farn y bydd y naill sefydliad a'r llall yn medru datblygu'r cyfryngau darlledu Cymraeg ymhellach a darparu gwasanaeth sy'n cwrdd ag anghenion a disgwyliadau cynulleidfaoedd yng Nghymru - disgwyliadau ac anghenion sy'n newid ac esblygu."
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol ar gyfer darlledu Cymraeg sy'n darparu eglurder ar gyfer y berthynas newydd rhwng S4C a'r 91热爆, tra ar yr un pryd yn diogelu annibyniaeth S4C.
"Mae'r Cytundeb Gweithredu hwn yn cynrychioli penllanw trafodaethau helaeth rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y 91热爆 a nifer o randdeiliaid ac mae'n diogelu'r rhan helaeth o gyllid S4C tan 2017.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Bu eu cyfraniadau yn werthfawr tu hwnt ac maent wedi cyfrannu'n arwyddocaol at eiriad terfynol y Cytundeb unigryw hwn."
'Dyfodol hyderus'
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 91热爆 dros Gymru:
"Fy mhrif flaenoriaeth yw cynorthwyo S4C i ddarparu'r rhaglenni gorau posib i gynulleidfaoedd Cymraeg, tra'n diogelu annibyniaeth S4C a sicrhau bod arian o ffi'r drwydded yn cael ei wario'n ddoeth.
"Bydd y bartneriaeth helaethach hon yn adeiladu ar ymrwymiad y 91热爆 i'r Gymraeg sydd wedi bodoli ers dyddiau cynharaf y Gorfforaeth, ac yn adeiladu ar lwyddiannau S4C dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf ac yn symud darlledu yn y Gymraeg yn ei flaen tuag at ddyfodol creadigol hyderus."
Bydd y 91热爆 yn cyfrannu'r canlynol o ffi'r drwydded i S4C:
2013-14 - 拢76.3m;
2014-15 - 拢76.0m;
2015-16 - 拢75.25m;
2016-17 - 拢74.5m.
Yn ogystal yn ystod 2013-14 bydd y 91热爆 yn cyfrannu rhaglenni gwerth 拢19.4m fel rhan o'r Bartneriaeth Strategol ar y ddarpariaeth statudol o raglenni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011