S4C: Newidiadau i'w hamserlen
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i'w hamserlen gyda sawl rhaglen yn symud i amseroedd newydd o fis Ebrill ymlaen.
O fis Ebrill ymlaen, fe fydd prif raglen Newyddion sy'n cael ei chynhyrchu gan 91热爆 Cymru yn cael ei darlledu am 9pm.
Y gyfres ddrama Rownd a Rownd fydd ar y sgrin am 7.30pm bob nos Fawrth a nos Iau.
Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno yn parhau am 7pm bob nos Lun i nos Wener, ond bydd rhaglen estynedig awr o hyd bob nos Lun a nos Wener.
Yn 么l Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, mae'r sianel yn ymateb i ofynion gwylwyr.
Dywedodd Golygydd dros dro Newyddion 91热爆 Cymru, Sharen Griffith: "Mae Newyddion yn dod 芒'r wybodaeth ddiweddaraf i wylwyr S4C, gyda'r rhagoriaeth newyddiadurol y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan y 91热爆.
"Rydym yn edrych ymlaen at ail-lansio'r rhaglen ar yr amser cyffrous newydd yma am 9pm."
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4: "Mae'n gyfle i ail leoli'r newyddion a chreu gwasanaeth cynhwysfawr, amserol fydd yn berthnasol i'r adeg honno o'r nos ac i gynulleidfa S4C fydd yn cynnwys newyddion Cymru a'r byd.
"Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni wrth drefnu amserlen y noson."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012