'Setlwch yr anghydfod ar frys'

Disgrifiad o'r llun, Elfyn Llwyd: Yr argyfwng yn "bygwth bywoliaeth cerddorion ac yn tanseilio'r iaith yn y tymor hir'.

Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi galw am setlo'r anghydfod rhwng y 91热爆 a'r asiantaeth Eos ar frys.

Rhybuddiodd fod yr argyfwng yn "bygwth bywoliaeth cerddorion ac yn tanseilio'r iaith Gymraeg yn y tymor hir".

Mae 91热爆 Cymru wedi dweud eu bod yn rhannu dyhead Eos i ddod 芒'r anghydfod i ben ac i gytuno ar bris teg am eu cerddoriaeth.

Dywedodd Mr Llwyd: "Mae'r anghydfod wedi parhau am sawl mis.

"Mi ddylai bwrdd 91热爆 Cymru fod wedi gwneud mwy yn nhermau negydu priodol.

"Mae'n ymddangos y gallai'r unig wasanaeth radio cenedlaethol yn yr iaith Gymraeg gael ei chwalu er mwyn gwarchod rhyw gydberthynas gyffyrddus 芒 PRS."

Cwestiynu

Roedd angen cwestiynu, meddai, beth oedd blaenoriaethau a gwerthoedd y 91热爆 o ran gwario arian.

"Mae Eos, sy'n cynrychioli artistiaid yng Nghymru, yn cael cynnig 25% o'r hyn mae'r rhwydwaith Asiaidd yn ei gynnig.

"Yn amlwg, mae hyn yn annheg."

Dywedodd llefarydd ar ran 91热爆 Cymru: "Mae'r 91热爆 wedi bod yn cwrdd ag Eos, y corff sy'n cynrychioli cerddorion Cymraeg, ers iddo gael ei sefydlu ym mis Hydref y llynedd, ac wedi gweithio'n galed i geisio dod i gytundeb.

"Rydym yn siomedig iawn nad ydym wedi llwyddo i wneud hynny eto ac mae hefyd yn siomedig bod rhaglenni Radio Cymru yn cael eu heffeithio gan yr anghydfod.

'Ymhellach'

"Mae cynnig ariannol y 91热爆 yn mynd ymhellach na'r hyn sydd wedi cael ei dalu erioed o'r blaen gan gymdeithas hawlfraint y PRS am hawliau darlledu ac fe fyddai'n cynyddu'n sylweddol y taliadau maen nhw'n eu derbyn am ddarlledu eu gwaith ar Radio Cymru."

Dywedodd eu bod wedi cynnig defnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol er mwyn dod 芒'r anghydfod i ben.

"Byddai'r trafodaethau yn cael eu harwain gan rywun a fyddai'n dderbyniol i Eos a'r 91热爆, gyda'r nod o geisio sicrhau asesiad teg ac annibynnol o werth ariannol yr hawliau darlledu.

"Yn y cyfamser byddwn yn dal i wneud pob ymdrech i ddod i gytundeb ac yn ceisio cynnal y gwasanaeth 91热爆 Radio Cymru i'r gorau o'n gallu."