Archeb Airbus: 'Miloedd o swyddi'n saff'

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Nia Cerys

Fe fydd cytundeb newydd yn gwarchod miloedd o swyddi yn y DU, medd cwmni awyrennau Airbus.

Mae Air Asia, cwmni teithio rhad mwyaf Asia, wedi archebu 100 o awyrennau.

Bydd y cytundeb am 64 A320neo a 36 A320ceo yn rhan o gytundeb rhwng y ddau gwmni am 475 o awyrennau.

Eisoes mae mwy na 100 wedi cael eu hanfon ac yn hedfan o feysydd awyr yn Bangkok, Kuala Lumpur, Jakarta, Manila a Tokyo.

Dywedodd sefydlydd cwmni AirAsia, Sri Tan Dr Tony Fernandes: "Bydd yr archeb yn ateb ein gofynion y tymor byr a chanolig wrth i'r galw gynyddu ar draws ein rhwydwaith.

"Mae'r A320 wedi chwarae r么l allweddol yn ein llwyddiant, yn golygu y gallwn gynnig y prisiau rhataf posib' i'n cwsmeriaid."

'Cryfder y sector'

Roedd y cyhoeddiad wrth i'r Prif Weinidog David Cameron fynd i ffatri Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint lle bydd yr adenydd yn cael eu cynhyrchu.

Dywedodd Airbus y byddai'r cytundeb yn gwarchod 1,500 o swyddi yn y cwmni a 7,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd Mr Cameron: "Mae hwn yn newyddion gwych ac yn hwb enfawr i'r gweithlu ac i weithgynhyrchu yn y DU.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos cryfder y sector awyrofod a'i r么l bwysig wrth adfywio ein heconomi.

"Bydd y llywodraeth yn parhau i gefnogi awyrofod yn y DU, yn torri trethi busnes, buddsoddi mewn allforion a gweithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant er mwyn sicrhau y gall gystadlu'n fydeang."