Airbus yn symud gwaith i Korea
- Cyhoeddwyd
Mae undeb llafur mwyaf y DU, Unite, wedi disgrifio penderfyniad gan gwmni Airbus, i symud gwaith ar adenydd i Korea, fel camgymeriad mawr.
Cafodd staff y cwmni yn eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint, wybod ddydd Mawrth y bydd gwaith ar grwyn adenydd yr awyren A320 yn symud i ffatri KAI yn Korea.
Dywed cwmni Airbus y bydd y 30 o weithwyr fydd yn cael eu heffeithio gan y newid yn cael eu hail hyfforddi i weithio mewn lleoedd eraill.
Ond dywed undeb Unite fod y penderfyniad yn tanseilio sgiliau gweithwyr y DU, ac y bydd yn gwanhau safle Prydain yn y diwydiant awyrennau byd-eang.
'Ar eu colled'
Dywedodd Ian Waddell o'r undeb: "Mae yna lawer o gwmn茂au yn y DU sy'n barod ac yn medru gwneud y gwaith i Airbus, ond maen nhw ar eu colled nawr bod y gwaith wedi ei symud i Korea.
"Mae'r DU yn arwain y byd wrth adeiladu adenydd, ond mae'r penderfyniad yma'n gwanhau'r sefyllfa yna, ac yn rhoi mantais ddianghenraid i'r cystadleuwyr.
"Mae llywodraethau'r DU a Chymru wedi rhoi miliynau o bunnau i Airbus dros lawer o flynyddoedd, ond nid yw'r gefnogaeth honno'n cael ei hadlewyrchu drwy gadw gwaith yn y DU."
'Penderfyniad positif'
Gwadu'r cyhuddiad wnaeth cwmni Airbus mewn datganiad sy'n dweud:
"Bydd y penderfyniad yma'n cryfhau Airbus yn y DU yn y tymor hir, gan ganiat谩u i ffatri Brychdyn ganolbwyntio ar feysydd canolog sydd 芒 gwerth uchel.
"Bydd y gwaith lefel uchel a chydosodiad terfynol adenydd yr A320 yn parhau i gael ei wneud ym Mrychdyn.
"Mae'r penderfyniad i symud gwaith sydd ddim yn ganolog i KAI yn benderfyniad strategol positif sy'n cydnabod y cynnydd mewn capasiti o ganlyniad i lyfr archebion cryf Airbus.
"Mae'r graddfeydd cynhyrchu ym Mrychdyn yn cynyddu, ac fe fydd llawer o'r adnoddau sy'n cael eu creu gan y penderfyniad yma yn cefnogi effaith y cynnydd ym Mrychdyn.
"Mae Brychdyn yn ganolfan o safon byd-eang am gynhyrchu adenydd, ac fe fydd y penderfyniad yma yn sicrhau y gall ganolbwyntio ar ei chryfderau.
"Mae Airbus yn y DU yn cyflogi 10,000 o bobl yn uniongyrchol, ac yn darparu gwaith i 100,000 yn fwy drwy'r gadwyn gyflenwi estynedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011