Newid breindaliadau i arwain at fethu darlledu miloedd o ganeuon?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd Radio Cymru yn colli'r hawl i chwarae tua 20,000 o ganeuon yn y flwyddyn newydd.
Daw'r datblygiad ar 么l i gannoedd o gyfansoddwyr Cymraeg, sy'n cynnwys Bryn F么n, Huw Chiswell, Elin Fflur a Dafydd Iwan, dynnu eu hawliau darlledu oddi ar Asiantaeth y PRS.
Maen nhw wedi eu trosglwyddo i Eos, asiantaeth newydd sydd wedi ei chreu i gasglu breindaliadau ar eu rhan, yn uniongyrchol gan ddarlledwyr.
Eos fydd yn gyfrifol am y caneuon o Ionawr 1 2013 ymlaen.
Mae'r 91热爆 ac S4C wedi cael tan hynny i ddod i gytundeb 芒 nhw.
Pum mlynedd yn 么l fe wnaeth breindaliadau'r PRS i gyfansoddwyr Cymraeg ostwng.
'Cadw'r diwydiant'
Erbyn hyn mae cerddorion yn gwrthod rhoi trwydded i'r 91热爆 chwarae eu cerddoriaeth oni bai bod y gorfforaeth yn talu breindal gwell.
"Roedden ni wedi hitio'r wal bron iawn," meddai Dafydd Roberts, Rheolwr Cwmni Sain.
"Roedd pawb wedi colli cymaint o arian.
"Doedd 'na ddim dewis arall, roedd rhaid gwneud rhywbeth i gadw'r diwydiant i fynd."
Ffrae rhwng y PRS a'r cyfansoddwyr ydi hyn.
Yn 2007 fe wnaeth y PRS benderfyniadau bod y breindal o ddefnydd cyhoeddus o ganeuon Cymraeg - yr hyn oedd yn cael eu chwarae mewn tafarndai, clybiau nos, dosbarthiadau aerobic, carioci ac ati - yn rhy uchel.
O ganlyniad fe ddaeth enillon y cyfansoddwyr i lawr yn sylweddol dros gyfnod o dair blynedd, o swm oedd yn cyfateb i 拢7.50 y funud bob tro yr oedd c芒n yn cael ei chwarae ar y radio i 50 ceiniog y funud.
Dywedodd Barry Archie Jones, aelod o Celt ac aelod o'r PRS ers yr 1980au, nad oedd yr arian y derbyniodd yn uchel ar y cychwyn.
'Ailedrych'
Ond yn y flwyddyn 2000 cafodd daliad annisgwyl.
"Fe wnes i dderbyn cyfriflen bapur ar 么l y taliad mawr cyntaf.
"Pe tawn i'n dewis un o'm caneuon, Un Wennol er enghraifft, bal芒d fach...dwi ddim yn gwybod y swm oeddwn i'n ei chael ond duda s诺n i'n cael 拢10 am y flwyddyn.
"Wedyn roeddwn i'n cael 拢60 am y fersiwn carioci a dwi'n gwybod does 'na ddim fersiwn carioci ohoni a hefyd yn derbyn 拢100 am iddi gael ei chwarae mewn dosbarthiadau aerobic, a does 'na ddim un ffordd fedri di wneud aerobic i'r g芒n yna.
"Ro'n i'n cau fy ngheg a derbyn yr arian fel pawb arall a dyna fu hi tan 2007 tan i PRS ailedrych ar y ffordd o dalu."
Yn y cyfamser dywed bod nifer yn cymryd mantais o gyfansoddi a gwneud pres.
"Roeddwn i'n gweld y caneuon ar y radio yn diodde' oherwydd....dim graen iddyn nhw..." ychwanegodd.
Mae colli'r breindaliadau yn sicr wedi cael effaith gan fod Dafydd Roberts yn dweud bod llai o ganeuon wedi eu cyfansoddi yn y pum mlynedd diwethaf.
"Os nad oes 'na ddiwydiant cerdd yn ffynnu yng Nghymru, fydd na ddim deunydd ar gyfer y darlledwyr yn y dyfodol," meddai.
Dydi'r 50c y funud y mae'r PRS yn ei roi bob tro mae c芒n yn cael ei chwarae ar Radio Cymru ddim yn dderbyniol nac yn gynlaidwy yn 么l cerddorion.
Dywedodd y cerddor Gwilym Morus, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Eos, mi fyddan nhw'n gofalu am fuddiannau cerddorion Cyrmaeg yn well.
Cytundeb
"Rhaid cofio nad ydi hyn wedi digwydd o'r blaen ac mai Eos fydd y corff cyntaf i dorri monopoli PRS," meddai.
Mae 91热爆 Cymru yn cydymdeimlo gyda safiad y cerddorion ac yn gobeithio am ateb yn fuan, yn 么l Si芒n Gwynedd, Pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg 91热爆 Cymru.
"O safbwynt Radio Cymru mae cerddoriaeth Gymraeg yn gwbl gwreiddiol ac yn hanfodol ac felly hefyd i'r gwrandawyr.
"Mae'n hanfodol bwysig i ni fod 'na gytundeb yn dod i'r fei a gobeithio y bydd pawb yn y trafodaethau yn bod yn rhesymol ac y bydd 'na gytundeb rhwng y tair ochr."
Mae'r 91热爆, PRS ac Eos yn dal mewn trafodaethau a does 'na ddim cytundeb am faint o arian fydd yr arian yn cael ei roi na sut y bydd yn cael ei rannu.
Mwy am y stori yma ar Manylu 91热爆 Radio Cymru am 2pm ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011