Tywysog i ymweld â Llanelwy
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Clarence House y bydd Tywysog Charles yn ymweld â Llanelwy ddydd Llun er mwyn cwrdd â dioddefwyr a rhoi diolch i'r gwasanaethau brys.
Ddydd Mawrth diwethaf cafodd cannoedd o gartrefi eu difrodi a bu'n rhaid i nifer adael eu tai ar ôl i'r Afon Elwy orlifo.
"Yn dilyn y llifogydd mewn sawl ardal o'r Deyrnas Unedig yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Tywysog Cymru yn awyddus i ddiolch i'r gwasanaethau brys ac i roi cefnogaeth i'r dioddefwyr.
"Fe benderfynodd y Tywysog ymweld â Llanelwy oherwydd bod y ddinas wedi ei tharo yn galed, gyda dros 180 o dai wedi eu heffeithio."
Mae o wedi gofyn i un o'i elusennau Busnes yn y Gymuned, i helpu gyda'r gwaith o atgyweirio'r difrod yn Llanelwy.
Gweithgareddau
Yn y cyfamser bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal dros y Sul yn y ddinas er mwyn rhoi cymorth i'r dioddefwyr.
Bydd cyfle i bobl weddïo mewn gwasanaeth arbennig yn yr Eglwys Gadeiriol ddydd Sul am 3.30pm.
Ddydd Sul hefyd bydd parti Nadolig yn cael ei gynnal ar gyfer plant lleol ym mharc carafannau Eryl Hall.
Dywedodd y cynghorydd lleol Denise Hodgkinson: "Nid ydym am i'r llifogydd ein digalonni a difetha ysbryd y Nadolig. Rydym am wneud popeth i godi calonnau pobl."
Bu'n rhaid i gannoedd o bobl adael eu cartrefi ar ôl i'r afon orlifo a mynd heibio'r amddiffynfeydd.
Bu farw un fenyw, Margaret Hughes oedd yn 91 oed, yn ystod y llifogydd.
Mae cwest wedi agor a'i ohirio i achos ei marwolaeth.
Clywodd y crwner dros dro John Gittins, mai'r canfyddiad cynnar o'r archwiliad post mortem oedd ei bod wedi boddi.
Dywed cynghorau Sir Dinbych a Chonwy eu bod yn parhau i roi cyngor a chymorth i bobl yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012