Ddim am gymeradwyo newidiadau
- Cyhoeddwyd
Nid yw'r corff sy'n gwarchod iechyd yng ngogledd Cymru yn fodlon cymeradwyo newidiadau arfaethedig y bwrdd iechyd i wasanaethau'r rhanbarth.
Roedd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr yn ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfres o newidiadau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.
Byddai'r cynlluniau dadleuol yn gweld y gwasanaethau yn cael eu canoli mewn deg ysbyty, gyda dyfodol nifer o ysbytai eraill yn y fantol gan gynnwys Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint.
Fe fyddai'r cynlluniau hefyd yn golygu cau nifer o adrannau m芒n anafiadau ar draws y rhanbarth.
Ond fel rhan o'r broses ymgynghorol, mae'r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn cael dweud eu dweud, ac maen nhw'n barod i gyfeirio'r cynlluniau at y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, os na fydd y bwrdd iechyd yn gwneud newidiadau.
'Pryderus iawn'
Yn eu hymateb, dywed y CIC bod angen mwy o wybodaeth a sicrwydd cyn y gall ddweud os yw unrhyw un o'r cynigion er budd pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau.
Wrth siarad am ymateb y cyhoedd i'r broses ymgynghori, dywedodd Pat Billingham, Prif Swyddog CIC:
"Carwn ddiolch yn fawr i'r 2,000 a rhagor o bobl a anfonodd eu barn a'u sylwadau i ni yn CIC.
"Roedd llawer yn bryderus iawn am un neu fwy o gynigion y bwrdd iechyd; roedd nifer yn croesawu un neu fwy ohonynt.
"Bydd barn pawb yn cael eu hadlewyrchu yn ein hymateb, ond gwaith CIC yw nid dim ond rhoi gwybod i'r bwrdd beth mae pobl wedi dweud wrthym a gadael pethau ar hynny.
"Ein gwaith ni yw craffu'r cynigion yn fanwl a phenderfynu os ydynt yn golygu y bydd pobl yn cael gwell gofal yn gyffredinol.
'Diffyg manylion'
"Ar sail yr hyn yr ydym yn ei wybod yn awr, ni allwn roi'r 'golau gwyrdd' i gynigion y bwrdd iechyd. Rydym angen rhagor o wybodaeth a sicrwydd am sawl mater - yn cynnwys gwasanaethau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, gofal ysbaid i gleifion a gofalwyr, a gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n darparu gofal i bobl - cyn y gallwn edrych unwaith eto ar y cynigion.
"Rydym hefyd yn croesawu rhai o'r cynigion. Er enghraifft, rydym yn cefnogi newidiadau a fedrai olygu fod llai o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty i gael gofal, neu eu bod yn gallu dod adref yn gynt nag a allant ar hyn o bryd.
"Ond rydym yn bryderus iawn am y diffyg manylion mewn rhai rhannau o'r cynigion ac mai ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am oblygiadau ariannol a staffio cynlluniau'r bwrdd."
Dywedodd Cadeirydd CIC, Dr Christine Evans: "Rydym wedi rhoi gwybod i'r bwrdd iechyd ein bod o'r farn nad yw unrhyw un o'r cynigion ar hyn o bryd er budd y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, ac ni allwn gefnogi'r cynigion i wasanaethau pelydr-x a'r unedau m芒n anafiadau o gwbl.
"Rydym yn sylweddoli fod y bwrdd iechyd yn gorfod ymdrin 芒 rhai problemau anodd, ond nid yw'r bwrdd hyd yma wedi rhoi digon o wybodaeth i ni am fanteision a risgiau ei gynigion i gleifion a gofalwyr - a beth fydd yn ei wneud i fynd i'r afael 芒'r risgiau hynny.
"Nodir pwerau'r CIC mewn deddfwriaeth a chanllaw Llywodraeth Cymru. Gallwn - yn wir mae'n rhaid i ni, wrthwynebu cynigion i newid os ydym yn credu bod y risgiau yn fwy na'r manteision ac nad ydynt er budd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau."
'Heriau sylweddol'
Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddatganiad yn ymateb i ddogfen y CIC sy'n dweud:
"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn a chydnabod ymateb manwl Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yng Ngogledd Cymru i gynigion y Bwrdd Iechyd ar gyfer datblygu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru.
"Yn ei ymateb mae'r CIC wedi cydnabod yr heriau sylweddol sy'n wynebu'r GIG yn y blynyddoedd nesaf a'r angen am newid o ganlyniad i hyn.
"Mae'r rhain yn cynnwys y pwysau ar arian y sector cyhoeddus, cynnydd yn y galw am wasanaethau ac yn arbennig yng Ngogledd Cymru, anawsterau i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig a recriwtio staff arbenigol i weithio mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth.
"Rydym yn croesawu cefnogaeth eang y CIC o blaid yr ymresymu tu 么l i'r cynigion, y cyfeiriad cyffredinol y dymunwn ei ddilyn a nifer o'n cynigion penodol, yn ogystal 芒'u cytundeb bod y rhain yn unol 芒 pholisi cenedlaethol.
"Rydym hefyd yn cydnabod eu bod wedi mynegi pryderon ynghylch manylion rhai o'r cynigion ac yn ystod y chwech i wyth wythnos nesaf byddwn yn gweithio gyda'r CIC i ymateb i'r rhain yn barod at gyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr pan fydd yr aelodau yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012
- Cyhoeddwyd21 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd6 Medi 2012