91热爆

Disgyblion yn cael clywed graddau newydd

  • Cyhoeddwyd
Examination hall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 2,300 o'r 34,000 o ddisgyblion a safodd yr arholiad yng Nghymru wedi cael graddau gwell

Mae cannoedd o ddisgyblion ar draws Cymru yn cael clywed ddydd Mercher beth yw eu graddau TGAU Saesneg newydd yn dilyn ailraddio'r papurau arholiad.

Bu arholwyr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn gweithio dros y penwythnos wedi i'r Gweinidog Addysg orchymyn ailraddio'r papurau wedi dadl bod newid ffiniau'r graddau wedi bod yn annheg.

Yn 么l ffigyrau a ddatgelwyd ddydd Mawrth, fe gafodd dros 2,300 o ddisgyblion raddau gwell.

Fe wnaeth tua 34,000 o ddisgyblion yng Nghymru sefyll yr arholiad yn yr haf.

Bydd cyfanswm o 1,202 yn gweld eu graddau yn cynyddu o D i C, a 598 yn gwella o C i B.

Mae newid y ffiniau hefyd wedi gweld newidiadau mewn graddau eraill, gan olygu cynnydd mewn gradd i 2,386 o ddisgyblion.

Bydd disgyblion yn derbyn eu graddau newydd wrth gyrraedd yr ysgol fore Mercher.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews: "Gall ymgeiswyr fod yn dawel eu meddwl bod y broses a ddefnyddiwyd i benderfynu'r radd derfynol yn deg a chyfiawn."

Ffrae

Roedd canran y disgyblion yng Nghymru a gafodd radd C mewn Saesneg yn yr haf i lawr 3.9% o'i gymharu 芒'r llynedd.

Cyfaddefodd Mr Andrews ei fod yn disgwyl i'r graddau Saesneg yng Nghymru i fod yn is na'r llynedd o hyd.

Arweiniodd ei benderfyniad i orchymyn ailraddio'r papurau at ffrae rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.

Bydd 84,000 o fyfyrwyr yn Lloegr a wnaeth yr un arholiad ddim yn cael eu hailraddio, gan olygu y gallai gradd C yng Nghymru gael ei ystyried fel gradd D yn Lloegr am yr un papur.

Agorodd y bwlch rhwng y ddwy lywodraeth yn dilyn datgelu cynlluniau i ddiwygio sustem arholi Lloegr ddydd Llun pan ddywedodd Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, y byddai'n diddymu'r TGAU yn Lloegr a chyflwyno arholiadau newydd y fagloriaeth Seisnig yn eu lle.

Bydd hynny'n golygu un arholiad ar ddiwedd y tymor yn hytrach nag asesu parhaus.

Dywed Mr Andrews y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ar TGAU yng Nghymru yn dilyn adolygiad ym mis Tachwedd, a disgrifiodd gynlluniau Mr Gove fel "cam yn 么l" gan ddweud na fyddai Cymru dychwelyd at sustem debyg i'r hen lefel-O beth bynnag fo canlyniad yr adolygiad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol