91热爆

Datrys anghydfod Pontydd Hafren

  • Cyhoeddwyd
The Second Severn Crossing [Pic: Terry Winter]Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu bron i'r anghydfod arwain at streic 24 awr fis diwethaf

Mae anghydfod am batrymau gwaith staff y tollbyrth ar Bontydd Hafren wedi ei ddatrys yn 么l un undeb.

Dywedodd undeb Unite mai dim ond manylion bach oedd eto i'w cytuno, ac nad oedd bygythiad o weithredu diwydiannol bellach.

Roedd yr anghydfod wedi rhygnu 'mlaen dros yr haf, gydag Unite yn honni y gallai newidiadau i batrymau gwaith arwain at oedi hirach wrth y tollbyrth.

Cytunodd cwmni Severn River Crossing (SRC) bod yr anghydfod wedi ei ddatrys heblaw ambell fanylyn bach.

Gorfodaeth

Ym mis Gorffennaf fe bleidleisiodd tua 70 o staff y tollbyrth dros weithredu diwydiannol yng nghanol pryder y byddai shifftiau gwaith newydd yn amharu ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd bob dydd.

Yna ym mis Awst fe gafodd streic 24 awr ar ddechrau G诺yl y Banc ei ohirio yn dilyn trafodaethau rhwng yr undeb a rheolwyr.

Mae gorfodaeth gyfreithiol ar SRC i gadw'r ddwy bont dros Afon Hafren ar agor rhwng de Cymru a Lloegr, a deellir y byddai streic wedi golygu peidio codi tal am groesi dros y cyfnod yna.

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Jeff Woods: "Mae trafodaethau'n parhau ac mae ambell fanylyn angen eu datrys, ond rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi osgoi unrhyw weithredu diwydiannol.

"Mae pethau wedi'u setlo. Mae'r prif fecanwaith wedi ei gytuno gan y ddwy ochr, ac mae'r ddwy ochr yn hapus gyda'r ffordd y mae pethau wedi digwydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol