91热爆

Cymru 0-2 Bosnia Herzegovina

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd siom Chris Coleman gyda pherfformiad ei d卯m yn amlwg

Roedd hi'n braf i gefnogwyr Cymru weld cymaint o s锚r y t卯m yn bresennol ar gyfer y g锚m gyfeillgar ar Barc y Scarlets wrth i Chris Coleman baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 fis nesaf.

Ond siom oedd gweld dau o s锚r yr Uwchgynghrair yn gwneud camgymeriad arweiniodd at g么l i'r ymwelwyr wedi 21 munud.

Roedd dau gamgymeriad yn y symudiad - gan Neil Taylor ac Ashley Williams o Abertawe - ac fe fanteisiodd Vedad Ibisevic i'r eithaf i roi Bosnia ar y blaen.

Cyn hynny, roedd Cymru wedi dangos cryn dipyn o addewid wrth ymosod gan daro'r trawst a gorfodi ymyrraeth gan amddiffyn Bosnia ar eu llinell g么l eu hunain.

Ond Bosnia oedd y t卯m gorau, ac wrth i'r g锚m fynd yn ei blaen, roedd Edin Dzeko o glwb Manchester City yn ddraenen barhaus yn ystlys y Cymry.

Dryswch

Doedd dim mwy o goliau cyn yr egwyl, ond beth bynnag ddywedodd Chris Coleman wrth ei d卯m doedd e ddim yn effeithiol.

Roedd dryswch llwyr yn amddiffyn Cymru wedi 54 munud, ac roedd Miroslav Stevanovic wrth law i sgorio ail g么l yr ymwelwyr.

I wneud pethau'n waeth, fe gafodd Gareth Bale anaf yn ystod y symudiad ond mynnodd aros ar y cae.

Roedd rhwystredigaeth Coleman gyda'i amddiffyn yn amlwg.

Fe geisiodd y rheolwr newid pethau yn ymosodol drwy ddod 芒 Craig Bellamy a Steve Morison i'r cae fel eilyddion yn yr ail hanner.

Ond roedd y cyfan yn ofer gyda Bosnia yn creu mwy o gyfleoedd tua'r diwedd - roedd Bosnia yn sicr yn haeddu'r fuddugoliaeth.

Fe fydd tasg nesaf y t卯m cenedlaethol yn dipyn anoddach, ac yn bwysicach wrth iddyn nhw herio Gwlad Belg yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn Brasil yn 2014.

Yn eu g锚m gyfeillgar nhw nos Fercher, fe enillodd Gwlad Belg yn erbyn Yr Iseldiroedd - oedd yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2010 - o 4-2.