91热爆

Ymateb i gynigion bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty (Cyffredinol)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

AC Llafur Delyn, Sandy Mewies: 'Angen gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y ganrif hon.'

Mae gwleidyddion, mudiadau a phobl leol wedi bod yn ymateb i gynigion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am newid gwasanaethau iechyd yn y gogledd.

Gan fod cynnig i gau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog, dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn yr ysbyty, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.

"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?

"Mae ganddon ni enghreifftiau gwych o wastraff ...

'Teilwng'

"Ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na 拢800,000.

"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ond mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925.

"Ein neges ni ydi iddyn nhw yw 'edrychwch yn fanwl ar y dyfodol'.

"'Edrychwch ar yr adroddiad y mae'r pwyllgor amddiffyn wedi ei anfon fel ymateb i adroddiad Dr Edward Roberts, ac fe wnewch chi weld pa mor gryf ydi ein daliadau a'n bod yn deilwng o gael ysbyty'."

Dywedodd y Cynghorydd Linda Wynn Jones o Lan Ffestiniog na fydden nhw'n rhoi'r gore i'r frwydr i gadw'r ysbyty.

Mae AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, Ll欧r Huws Gruffydd, wedi dweud bod ei blaid am wella'r Gwasanaeth Iechyd.

"Hyd yma dwi ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod agenda israddio a chanoli'r Gweinidog Iechyd yn mynd i gyflawni hyn."

'Cwyn ffurfiol'

Dywedodd Pat Billingham, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr: "Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori mi fyddwn yn ymateb yn ffurfiol i'r cynigion.

"Mi fyddwn ni'n dweud a ydym yn credu bod y newidiadau er lles pobl leol a'r Gwasanaeth Iechyd.

"Os nad ydym yn fodlon ar ymateb y bwrdd iechyd mae modd anfon cwyn ffurfiol at y Gweinidog Iechyd."

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, wedi dweud ei fod yn siomedig iawn.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn gwasanaethau lleol i bobl leol.

"Dywedodd y Gweinidog Iechyd na fyddai'r un ysbyty yn cael ei israddio ..."

Cythruddo

Byddai'r bwriad i gau unedau m芒n anafiadau ar draws y gogledd yn cythruddo'r rhai sy'n ddibynnol ar y gwasanaeth, meddai Mr Millar.

"Dwi'n bryderus y byddwn ni'n wynebu haf hir o ansicrwydd i gleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'n allweddol bod y bwrdd yn caniat谩u trafodaeth agored ac onest ar y cynlluniau.

"Fe ddylai'r cyhoedd fod yn cael dylanwadu ar y math o wasanaeth fydd yn eu hardal."

Dywedodd AC Llafur Delyn, Sandy Mewies: "Byddaf i'n craffu ar yr argymhellion, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar Y Fflint a'r Wyddgrug.

"Dylai gwasanaethau iechyd fod yn ddiogel yn glinigol, o ansawdd uchel, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y ganrif hon."

Dywedodd y dylai'r ymgynghori fod yn agored ac yn dryloyw ac y dylai cymaint o bobl 芒 phosib gymryd rhan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol