Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gr诺p i ystyried sut i wella addysg Gymraeg ail iaith
Mae safonau a chyrhaeddiad mewn addysg Gymraeg ail iaith yn is na mewn pynciau eraill a does dim digon o ddisgyblion yn gwneud cynnydd yng Nghyfnod Allweddol 4.
Er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa, mae Gweinidog Addysg Cymru wedi sefydlu gr诺p adolygu i ystyried pa newidiadau y dylid eu cyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 er mwyn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith.
Yn 么l Leighton Andrews, dyw traean o ddysgwyr ddim yn ennill unrhyw gymhwyster cydnabyddedig yng Nghyfnod Allweddol 4 ac mae mwy o ymgeiswyr TGAU Cymraeg ail iaith yn sefyll y cyrsiau byr lle mae cyrhaeddiad yn isel.
"Ychydig o ddysgwyr Cymraeg ail iaith sy'n teimlo'n hyderus ac sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4," meddai Mr Andrews.
Mae'r Gymraeg yn bwnc statudol ac yn orfodol i bob disgybl hyd at 16 mlwydd oed.
Er hynny mae safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith yn is nag mewn pynciau eraill yn yr ysgol gynradd ac nid oes digon o ddisgyblion yn dod yn eu blaenau'n dda mewn ysgolion uwchradd.
Cynllun gweithredu
Nod y llywodraeth yw cynyddu nifer y dysgwyr sy'n gallu cyrraedd rhuglder a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, teuluoedd ac yn y gweithle.
Ym Mis Mai 2012, cyhoeddodd Mr Andrews gynllun gweithredu newydd gwerth 拢400,000 dros bedair blynedd i ddechrau gwella safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith.
Prif nod y cynllun, yn 么l y llywodraeth, yw gwella lefelau cyrhaeddiad Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, yn ogystal 芒 gwella'r profiad dysgu wrth bontio i Gyfnod Allweddol 3 a 4.
Er mwyn symud y gwaith yn ei flaen, mae'r llywodraeth wedi sefydlu gr诺p adolygu sy'n cynnwys unigolion 芒 phrofiad ac arbenigedd ym maes Cymraeg ail iaith.
Byddan nhw'n ystyried pa newidiadau y dylid eu gwneud i addysgu ac asesu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 er mwyn galluogi mwy o ddysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.
Bydd disgwyl i'r gr诺p adrodd yn 么l i'r gweinidog erbyn Medi 2013, gan ddarparu argymhellion ar y ffordd ymlaen.