Arolwg: 'Cryfhau statws yr iaith'
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg ar ran 91热爆 Cymru yn awgrymu bod y rhan fwyaf o Gymry o blaid cryfhau statws yr iaith Gymraeg ymhellach.
Dywedodd 72% o'r Cymry Cymraeg eu bod o blaid cryfhau statws yr iaith ac roedd dros hanner y rhai di-Gymraeg (56%) o blaid hyn.
Roedd hanner y 1,020 a holwyd yn ddi-Gymraeg.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Ionawr a'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi y diwrnod sy'n nodi 50 mlynedd ers darlith radio Tynged yr Iaith Saunders Lewis.
Yn yr araith yn 1962 fe ddywedodd mai "trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo" i achub yr iaith Gymraeg.
Addysg Gymraeg
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno sefydlwyd mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae arolwg y 91热爆 wedi holi pobl dros 16 oed am eu hagweddau at yr iaith.
Dywed bron tri chwater y rhai a holwyd mai sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i blant yw'r ffordd orau o warchod yr iaith.
Mae 72% yn credu mai sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael yw'r ffactor pwysicaf wrth ddiogelu'r iaith o'i gymharu 芒 25% sy'n credu mai'r ffactor pwysicaf yw bod rhieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant.
Mae bron i 64% o'r farn nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael mantais annheg dros rai sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Ac mae'r mwyafrif llethol, 83%, o'r farn ei bod yn iawn defnyddio arian cyhoeddus i hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg.
Mae dros dri chwarter y sampl o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o ddogfennau swyddogol cyhoeddus.
Dim ond un o bob tri (32%) sydd o'r farn fod y gallu i siarad Cymraeg yn gwneud unigolyn yn fwy o Gymro.
Defnydd
Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o feddwl hyn ond maen nhw'n dal yn y lleiafrif (43%).
Cred hanner y siaradwyr Cymraeg bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith yn gyffredinol.
Ond mae llai na hanner y siaradwyr Cymraeg a holwyd yn defnyddio'r Gymraeg wrth drafod 芒 chwmn茂au a sefydliadau gwahanol.
Mae canran uwch yn defnyddio'r Gymraeg yn y siopau a'r archfarchnadoedd (47%), a'r cynghorau neu'r llywodraeth (42%) na gyda'r banciau a chwmn茂au ariannol (31%) a'r cwmn茂au ff么n, trydan, nwy a d诺r (23%).
Roedd y sampl yn cynnwys 510 o siaradwyr Cymraeg a 510 o rai di-Gymraeg, ac mae'r canlyniadau wedi eu pwysoli i boblogaeth Cymru.
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan gwmni Beaufort Research.