Cerddorfa'r 91热爆 ar y ffordd adre wedi taith lwyddiannus
- Cyhoeddwyd
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆 wedi cwblhau eu taith gynta' erioed yn China.
Roedd y trip 12 diwrnod yn cynnwys chwe chyngerdd o dan arweiniad Thierry Fischer.
Cafodd un o'r cyngherddau ei ddarlledu'n fyw ar sianel deledu'r wlad.
Roedd 2,000 o bobl yn y gynulleidfa yn y neuadd gyngerdd yn Beijing a 6 miliwn arall yn gwylio ar deledu.
Roedd y daith yn rhan o 诺yl ar gelf a chreadigrwydd Prydain yn China, UK Now, a oedd wedi ei drefnu gan y Cyngor Prydeinig.
Bu'r gerddorfa yn chwarae yn ninasoedd Beijing, Shanghai, Shenzhen, Guangzhou a Tianjin.
Roedd yn rhaid i'r 86 o berfformwyr bacio eu hofferynnau gwerthfawr mewn cratiau ar gyfer y trip o amgylch y byd.
Yswirio offerynnau
Cafodd 41 o gratiau arbennig eu defnyddio i gludo'r 277 o eitemau.
"Maw gwerth yr offerynnau tua 拢2.5 miliwn," meddai rheolwr y Gerddorfa, Byron Jenkins.
"Roedden nhw wedi eu hyswirio wrth gwrs ond mae'r cerddorion yn bryderus am eu hofferynnau yn naturiol.
"Roedd 'na ryddhad o'u gweld yn cyrraedd y neuadd cyngerdd."
Dyma fydd un o'r cynlluniau olaf i Thierry Fischer arwain y gerddorfa wedi chwe blynedd.
"Dwi wedi mwynhau fy hun yn fawr gyda'r gerddorfa a bydd y cyngherddau yn China yn un o'r uchafbwyntiau."
Fe fydd ei gyngerdd olaf wrth arwain perfformiad o Requiem Berlioz yn ystod Proms y 91热爆 ym mis Awst.
Yn 么l Cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, Rhodri Talfan Davies, roedd y croeso'n frwd i'r gerddorfa yn China.
"Dyma gyfle arbennig i gyflwyno'r Gerddorfa i gynulleidfaoedd newydd.
"Mae'r ymateb mor gynnes 芒 chymaint o egni a brwdfrydedd yn y gynulleidfa.
"Hyd yn hyn mae'r daith wedi bod yn un arbennig iawn."