Rhodd o £75m gan Gymro i Brifysgol Rhydychen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn busnes o Gaerdydd, Michael Moritz, wedi cynnig rhodd ariannol o £75 miliwn i Brifysgol Rhydychen.
Dywedodd y brifysgol y byddai'r rhodd yn dileu cynnydd mewn ffïoedd i'r myfyrwyr tlota' ac y byddai'r ffi yn £3,500 y flwyddyn.
Fe fydd myfyrwyr cymwys hefyd yn derbyn arian tuag at eu costau byw.
Dywedodd Mr Moritz, 58 oed, a chadeirydd cwmni Sequoia Capital yn America, na fyddai ei deulu wedi llwyddo oni bai am gymwynaswyr.
Fe lwyddodd Mr Moritz ei arian yn America ar ôl gadael y brifysgol.
Rhoddodd y gorau i'w waith fel newyddiadurwr ar gylchgrawn Time a buddsoddi mewn cwmnïau fel Google, YouTube, Apple a PayPal.
Cefnogi'r gorau
Dywedodd fod ei deulu yn ddyledus i gymwynaswyr wedi iddyn nhw gael lloches o'r Almaen Natsïaidd.
"Fyddwn i ddim yma oni bai am bobl ddierth garedig," meddai Mr Moritz.
Ar sail ei brofiad yn America dywedodd fod nifer o'r arloeswyr mwya' "o'r cefndiroedd mwya' anarferol".
Ond mae ysgoloriaethau prifysgol wedi bod yn allweddol.
"Dwi am gefnogi'r un cyfleoedd," meddai.
Y nod, meddai, yw bod pob myfyriwr talentog - o bob cefndir - yn cael hyder llwyr wrth astudio yn Rhydychen.
'Dull newydd'
"Mae hwn yn ddull newydd o gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU ... yn gyfle i freuddwydion a dyheadau unigolion sy'n benferfynol o ragori ..."
Y rhodd o bosib yw'r pecyn ariannol mwya' yn hanes prifysgolion Ewrop.
Gydag arian cyfatebol mae disgwyl i rodd Mr Moritz a'i wraig Harriet Heyman godi i £300 miliwn.
Mae'r pecyn ariannol yn werth tua £11,000 y flwyddyn yr un i fyfyrwyr teuluoedd gydag incwm o dan £16,000 y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2012