Camddefnyddio: Diswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae diswyddiadau, ymddiswyddiadau a rhybuddion ffurfiol wedi bod ar 么l degau o enghreifftiau o gamddefnyddio gwefan Facebook yn awdurdodau lleol Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Doedd dim achos wedi ei gofnodi o gamddefnyddio Twitter nac unrhyw wefan gymdeithasol arall.
Daeth yr wybodaeth wedi cais 91热爆 Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Diswyddo
Yng Nghyngor Sir Ddinbych yn 2007 fe gafodd aelod o staff ei ddiswyddo ac ymddiswyddodd pump.
Wedi'r achosion hyn o gamddefnyddio Facebook, fe rwystrwyd mynediad i gyfryngau cymdeithasol ym mis Hydref 2007 a doedd dim achosion yn 2008, 2009 a 2010.
Yn 2011 diswyddwyd aelod o staff wedi gwrandawiad disgyblu ac fe wnaeth y cyngor "gymryd camau" yn erbyn aelod arall o staff "ond ni chafodd yr aelod staff ei ddiswyddo gan nad oedd y camddefnyddio'n rhy ddifrifol".
Tri ymchwiliad
Yng Nghyngor Caerdydd cafwyd tri ymchwiliad penodol pan brofwyd bod gweithwyr wedi camddefnyddio gwefan Facebook.
Yn 2009 roedd camau disgyblu yn erbyn gweithiwr ar 么l gwneud sylwadau amhriodol am ei waith ar Facebook.
Yn 2010 cafodd gweithiwr rybudd ysgrifenedig am wneud honiadau maleisus ar Facebook.
Hefyd yn 2010 cafodd gweithiwr rybudd ysgrifenedig terfynol am gamddefnyddio Facebook yn ystod salwch.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Cynhaliwyd nifer o ymchwiliadau gan y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r bwriad o fonitro'r defnydd o'r rhyngrwyd a wneir gan weithwyr".
Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot cafodd aelod o staff rybudd disgyblu ffurfiol yn 2011 am wneud sylw amhriodol ar Facebook.
Eleni rhoddwyd rhybudd disgyblu ffurfiol i aelod arall am gyhoeddi gwybodaeth gyfrinachol.
'Sylwadau amhriodol'
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymddiswyddodd aelod o staff yn 2008 a chafodd un arall rybudd llafar.
Yn 2009 gadawodd aelod o staff oherwydd "terfyniad ar y cyd", rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i un aelod o staff, rhybudd terfynol i un arall, a chwnsela i aelod arall.
Does dim achosion wedi eu cofnodi ers hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae pob achos yn ymwneud 芒 phostio sylwadau amhriodol ar Facebook ac nid ydynt yn ymwneud 芒 chamddefnydd yn ystod oriau gwaith.
"Mae mynediad i safleoedd Cyfryngau Cyhoeddus o gyfarpar TG y cyngor wedi ei gyfyngu i dim ond y staff hynny sydd angen y mynediad hynny oherwydd eu swyddi, ar wah芒n i'r cyfarpar TG hynny sydd ar gael yn ffreutur y staff fel bod staff yn gallu eu defnyddio yn eu hamser eu hunain".
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod dau achos o gamddefnyddio Facebook yn y tair blynedd diwethaf wedi arwain at gamau disgyblu.
Yng Ngyngor Sir y Fflint yn 2009 rhoddodd rheolwr gyngor i bedwar o weithwyr, cafodd un rhybudd ysgrifenedig a chafodd un ei ddiswyddo.
Yn 2010 cafodd tri aelod gyngor rheolwr, cafodd un rhybudd ysgrifenedig terfynol, a chafodd un ei ddiswyddo.
Yn 2011 rhoddwyd cyngor rheolwr i un aelod o staff.
Ers 2009 yng Nghyngor Torfaen mae wyth achos wedi bod o gamddefnyddio Facebook sydd wedi arwain at yr unigolion i gael rhybudd disgyblu.
Oriau gwaith
Yng Nghyngor Casnewydd cafodd aelod o staff rybudd lafar yn 2009 am ddefnyddio Facebook yn oriau gwaith.
Yn 2010 rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i bum aelod o staff am gamddefnyddio Facebook.
Eleni diswyddwyd un aelod o staff a rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i aelod arall.
Yng Nghyngor Conwy yn 2010, rhoddwyd rhybudd anffurfiol i dri aelod o staff a rhoddwyd tri rhybudd ffurfiol.
Yn 2011 cafwyd dau achos yn ymwneud 芒 sylwadau amhriodol ar Facebook y tu allan i'r gwaith, ac felly rhoddwyd un rhybudd ffurfiol ac un rhybudd terfynol.
Fe wnaeth un achos o ddefnydd cymharol uchel o Facebook (ymhlith safleoedd eraill), arwain at rybudd ffurfiol.
Roedd un achos yn ymwneud 芒 defnydd gormodol o Facebook a gwefannau eraill (dros 50 awr dros gyfnod o dri mis), a phroblemau blaenorol, yn ogystal 芒 honiadau ychwanegol - yn golygu bod yr unigolyn wedi'i ddiswyddo.
Rhoddwyd dau rybudd ffurfiol hyd yn hyn yn 2012, sef un achos yn ymwneud 芒 ff么n symudol yn cael ei ddefnyddio i fynd ar Facebook yn ystod oriau gwaith, gan roi sawl sylw ar y we, ac un achos o sylwadau / sgwrs amhriodol ar Facebook y tu allan i'r gwaith.
Dim achosion
Doedd dim achosion wedi eu cofnodi yng nghynghorau Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, a Phowys.
Roedd Cyngor Wrecsam o'r farn y byddai dategelu'r wybodaeth yn "groes i egwyddorion diogelu data", a hynny "oherwydd y niferoedd bach dan sylw, mae'r Cyngor o'r farn, pe c芒i'r wybodaeth ei darparu, y byddai'n bosibl adnabod unigolion pe bai'r wybodaeth hon yn cael ei chyfuno 芒 gwybodaeth sydd eisoes yn hysbys".
Ni chafwyd ateb gan Gyngor Abertawe i'r cais a gyflwynwyd ddechrau mis Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2012
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd13 Mai 2012