'Yn fodlon ar drefn ariannu S4C'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Diwylliant Ed Vaizey wedi dweud ei fod yn fodlon ar drefn newydd o ariannu S4C.
Fe fydd S4C yn derbyn dros 拢76 miliwn y flwyddyn o ffi'r drwydded o flwyddyn nesa ymlaen.
Dywedodd nad oedd unrhyw beth o'i le wrth gael cynrychiolydd o'r 91热爆 ar y panel sy'n penodi aelodau newydd awdurdod S4C.
Ychwanegodd nad oedd angen deddfwriaeth newydd i egluro'r berthynas rhwng y gorfforaeth a'r sianel.
Bu Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar newidiadau i strwythur a chylch gorchwyl y ddau ddarlledwr.
'Diogelu annibyniaeth'
Wrth ymateb, dywedodd S4C mewn datganiad: "Mae S4C yn croesawu derbyniad a chadarnhad y Gweinidog o'r cytundeb a gyrhaeddwyd rhwng Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac Awdurdod S4C ac yn credu fod y trefniant partneriaeth newydd yn diogelu annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C.
"Mae'n glir o ymateb y Gweinidog ei fod yn cytuno na fydd cynrychiolaeth Ymddiriedolaeth y 91热爆 ar unrhyw banel dewis aelodau Awdurdod S4C yn effeithio ar yr annibyniaeth honno.
"Bydd cynrychiolydd wedi ei enwebu gan Ymddiriedolaeth y 91热爆 ar y paneli dewis yn y dyfodol".
Bydd y Cytundeb Gweithredol rhwng Ymddiriedolaeth y 91热爆 ac S4C yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn yr haf.
Bydd y Cytundeb yn gosod allan yn fanwl y trefniadau atebolrwydd ac ariannu a sut fydd S4C a'r 91热爆 yn cydweithio i sicrhau cydweithredu ac effeithiolrwydd orau posibl.
拢100尘
Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 yn werth tua 拢100 miliwn.
Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r 91热爆 yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar 么l 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012