Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arddangos cynllun gorsaf bŵer £800m newydd i Wrecsam
Trafod cynlluniau i godi gorsaf bŵer nwy yn Wrecsam yw bwriad cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus.
Fe fydd y cyfarfod cyntaf ddydd Llun ym mhentref Marchwiail.
Gallai hyd at 1,200 o swyddi adeiladu a 50 swyddi parhaol eu creu petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, yn ôl Wrexham Power Ltd.
Fe fyddai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam i ddarparu pŵer i fusnesau yno.
Does dim disgwyl cais cynllunio tan 2014.
Mae'r cwmni, sydd wedi eu lleoli yng Nghanolbarth Lloegr, mewn trafodaeth gyda Chyngor Wrecsam.
Mae taflen wybodaeth gyda'r cynlluniau yn cael eu hanfon i bob cartref lleol.
Cynlluniau manwl
Fe fydd yr arddangosfa gyhoeddus mewn pum lleoliad yn ystod yr wythnos i gasglu barn y cyhoedd ac i ateb unrhyw bryderon.
Dywedodd y cwmni eu bod "yn y dyddiau cynnar" a'u bod am ymgynghori gyda'r cyhoedd "cyn cyflwyno cynlluniau manylach y flwyddyn nesaf".
"Mae'r farchnad ynni ym Mhrydain yn wynebu cyfnod heriol," meddai Rupert Wood, cyfarwyddwr Wrexham Power.
"O ganlyniad i gau gorsafoedd glo ac olew a hen orsafoedd niwclear fe fydd 20% o gyflenwad yn cael ei golli.
"Rydym yn gobeithio cyfrannu at leihau'r gostyngiad,"
Mae'r wybodaeth yn nodi y bydd yr orsaf yn Wrecsam yn defnyddio technoleg debyg i'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio gan Orsaf Bŵer Hafren ar lan Afon Wysg ger Casnewydd.
Cafodd yr orsaf honno ei hagor y llynedd ar gost o £600 miliwn.
Mae'r cynlluniau yn cynnwys gosod pibell nwy o dan ddaear am tua 3 cilometr ac mae 'na opsiwn i'r trydan gael ei drosglwyddo i'r Grid Cenedlaethol drwy'r ceblau pŵer presennol.
Mae'r datblygwyr, sy'n fenter ar y cyd rhwng St Modwen a Glenfinnan Properties, yn honni y gall yr orsaf gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer 1,250,000 o dai.