Pwerdy yn Wrecsam: Ceisio barn y cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau oherwydd cynlluniau i godi gorsaf b诺er nwy yn Wrecsam.
Dywedodd Wrexham Power y gallai'r safle 拢800 miliwn gyflogi hyd at 1,200 yn y diwydiant adeiladu a chreu 50 o swyddi parhaol.
Mae'n annhebygol y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno cyn 2014.
Cwmni o ganolbarth Lloegr sy tu cefn i'r cynllun.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr Wrexham Power, Daniel Chapman: "Byddwn yn cyflwyno cynlluniau mwy cadarn y flwyddyn nesa.
'Carbon isel'
"Ein bwriad yw buddsoddiad anferth fel y gallwn ni gyflenwi un o stadau diwydiannol mwya Ewrop.
"Mi fydd yr ynni'n garbon isel."
Mae Steve Bayley, Pennaeth Datblygu Economaidd y cyngor: "Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn delio 芒'r cais yn unol 芒 Deddf Gynllunio 2008.
"A bydd yr awdurdod, pobl leol a chynghorau bro yn mynegi eu sylwadau."
Yr Ysgrifennydd Ynni fyddai'n penderfynu'n derfynol, meddai.
Bydd taflenni yn amlinellu'r cynllun yn cael eu dosbarthu i dai lleol ac arddangosfeydd o'r cynlluniau yn cael eu cynnal yn y sir.
Y mis nesaf bydd ffordd lliniaru traffig i'r stad yn cael ei chwblhau ar gost o 拢35 miliwn.
Dywedodd Wrexham Power y byddai hon a'u cynllun nhw yn denu mwy o fuddsoddi i'r stad ddiwydiannol.