Eisteddfod Llangollen yn croesawu arweinydd adref
- Cyhoeddwyd
Mae gan arweinydd c么r o Dde Affrica reswm ychwanegol dros edrych ymlaen at Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd hi'n Eisteddfod i'w chofio i William Silk, symudodd o Dde Affrica i Wrecsam pan yn 10 mlwydd oed.
Bu'n byw yn y dref am nifer o flynyddoedd cyn iddo ef a'i deulu ddychwelyd i Affrica.
Mae'r 诺yl yn cael ei chynnal am y 66ed flwyddyn eleni.
"Roeddem ni'n byw yn Stryd Belgrave yn Wrecsam, yn agos at Ysgol Sant Joseph," meddai Mr Silk.
"Mynychais yr ysgol a dwi'n cofio pennaeth yr adran gerddorol, Mr Pat Lee, yn cael dylanwad mawr arnaf.
"'Sen i'n dweud ei bod o wedi chwarae r么l fawr yn fy mywyd fel cerddor."
Mae gan Mr Silk atgofion melys o'i fywyd fel bachgen yn Wrecsam.
'Diwrnodau gwych'
"Roedd rhedeg trwy goedwig Erddig a physgota yn yr afon yn gr锚t," meddai.
"Hefyd gwylio t卯m p锚l-droed Wrecsam o dan arweinyddiaeth Dixie McNeil, diwrnodau gwych.
"Rwyf wedi bod yn 么l i Wrecsam ers i ni ymfudo ac wedi llwyddo i ddod i adnabod y dref eto.
"Heblaw am ganolfan siopa newydd a'r ffaith nad yw ceir yn cael gyrru lawr y brif stryd, does dim llawer wedi newid."
Mae Mr Silk yn mynychu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am y trydydd tro, ond dyma ymweliad cyntaf ei g么r, The Midlands Choir.
"Mae'r traddodiadau corawl yma yn Ne Affrica yn gryf dros ben, yn debyg i draddodiadau corawl Cymru.
"Dwi'n credu mai De Affrica a Chymru yw'r ddwy genedl sy'n canu orau!"
'Calonogol'
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cychwyn ddydd Mawrth Gorffennaf 3 tan ddydd Sul Gorffennaf 8.
Ar drothwy'r 诺yl, dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: "Rydym yn edrych 'mlaen at wythnos lawn o gystadlaethau lliwgar o bedwar ban byd, ac rydym yn falch o gyhoeddi'n bod wedi cyflawni ein targedau ariannol ac o ran gwerthiant tocynnau.
"Roedd nifer y ceisiadau am y cystadlaethau ar i fyny eleni, sy'n galonogol i'r 诺yl yn ei 66ed blwyddyn.
"Mae'r broblem flynyddol o ran cystadleuwyr yn cael fisas yn parhau'n her, ond rydym yn falch fod nifer y cystadleuwyr yn 2012 rhywbeth tebyg i 2011."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012