91热爆

Maes awyr: Canolfan ranbarthol?

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, 91热爆 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, am weld perchnogion Maes Awyr Caerdydd yn buddsoddi i'r dyfodol

Mae arbenigwr ar y diwydiant awyrennau yn dweud y gallai Maes Awyr Caerdydd gael r么l bwysig fel canolfan rhanbarthol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ar faes awyr Heathrow.

Daw sylwadau Laurie Price wrth i Faes Awyr Birmingham annog llywodraeth y DU i ddatblygu meysydd awyr rhanbarthol.

Bydd gweinidogion San Steffan yn cyflwyno'u syniadau fel rhan o broses ymgynghori dros yr haf.

Dywed Maes Awyr Caerdydd eu bod yn ceisio adeiladu ar eu llwyddiant wrth ddenu tri chwmni awyrennau newydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y tri yw :-

  • Helvetic - yn hedfan i Zurich;

  • Vueling - yn hedfan i Barcelona, Alicante a Palma (Majorca);

  • Cosmos - yn hedfa i Orlando (Florida).

Dywedodd Mr Price, sy'n ymgynghorydd i'r diwydiant: "Mae gan Gaerdydd r么l bwysig i chwarae yng Nghymru.

"Roedd gan y maes awyr rwydwaith dda o wasanaethau yn y gorffennol. Yn amlwg mae'n gweithio'n galed i ail-adeiladu hynny."

Teithiau byr

Gwnaeth ei sylwadau wrth i adroddiad gan brif weithredwr Maes Awyr Birmingham, Paul Kehoe, ddweud bod awyrennau llai sy'n medru hedfan yn bellach yn golygu nad oes rhaid i deithwyr fynd drwy ganolfannau mawr fel Heathrow mor aml.

Mae perchnogion Heathrow, BAA, wrthi'n lansio ymgyrch newydd i gael caniat芒d i adeiladu trydedd llain lanio i'r maes awyr.

Ychwanegodd Mr Price: "Gall Caerdydd chwarae r么l bwysig wrth wasanaethu'r farchnad ranbarthol, yn enwedig teithiau byr i Ewrop."

Yn flaenorol mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi galw ar berchnogion Maes Awyr Caerdydd i fuddsoddi yn nyfodol y safle, neu ei werthu.

Ym mis Mai, dywedodd Mr Jones ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda darpar brynwyr oedd 芒 diddordeb mewn partneriaeth breifat a chyhoeddus, gyda Llywodraeth Cymru yn cymryd si芒r.

Dywedodd perchnogion Sbaenaidd Maes Awyr Caerdydd nad oedd ganddynt gynlluniau i'w werthu, ond eu bod yn agored i gynigion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol