91热爆

300 yn protestio yn erbyn tyrbinau

  • Cyhoeddwyd
Protest Llanddona
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth tua 300 o bobl o bob rhan o'r ynys i'r brotest yn Llanddona

Daeth tua 300 o bobl at ei gilydd ar Ynys M么n i brotestio yn erbyn codi tyrbinau gwynt mawr ar yr ynys.

Trefnwyd y brotest yn Llanddona gan fudiad Ynys M么n yn Erbyn Tyrbinau Gwynt, a hynny ar ffurf gorymdaith o amgylch pentref Llanddona brynhawn Sul.

Er mai'r pentref oedd canolbwynt y brotest, mae'r gr诺p yn erbyn ceisiadau i godi tyrbinau mawr tebyg mewn rhannau eraill o'r ynys.

Dywed y mudiad bod 57 o geisiadau cynllunio wedi cael eu cyflwyno i godi tyrbinau ar yr ynys, a bod llawer ohonynt dros 300 troedfedd o uchder.

Mae'r brotest yn dilyn un debyg yn Llangefni ym mis Chwefror pan ddaeth 200 o bobl i wrthwynebu cynlluniau am ffermydd gwynt.

Mae'r protestwyr yn dweud y bydd tyrbinau mawrion (llawer dros 200 troedfedd a rhai dros 300 troedfedd) yn anharddu tirwedd yr ynys, ac yn creu s诺n a niweidio'r amgylchedd.

'Anwybyddu'

Dywedodd Rhian Hughes o'r mudiad: "Dros tua blwyddyn r诺an mae Cyngor Ynys M么n wedi anwybyddu ein sylwadau ni - dydyn nhw ddim yn gwrando.

"Blas yw hyn o'r hyn sydd i ddod mewn pentrefi a threfi ar draws Ynys M么n.

"Dydi ynni gwynt ddim yn effeithiol, ac maen nhw'n difetha'r ardal.

"Am bob swydd sy'n dod i mewn i'r ardal gyda'r tyrbinau, mae pedwar yn gadael yn bennaf oherwydd twristiaeth."

'Cadw balans'

Yn bresennol hefyd roedd y Cynghorydd Gareth Winston Roberts, sy'n asiant ar ran rhai o'r cwmn茂au tyrbinau gwynt, a dywedodd:

"Rwy'n deall pryderon y bobl yma sy'n codi cwestiynau am faint rhai o'r tyrbinau, ond mae'n rhaid i ni fyw mewn byd real.

"Dwi'n dueddol o ochri gyda nhw am y rhai mawr, ond am y rhai bach - fe allai hynny achub busnes yng nghefn gwlad.

"Rhaid i ni gadw balans rhwng ynni niwclear a gwynt...ac ynni'r haul hefyd.

"Mae angen ystyried 'national security' yn ogystal. Ydan ni eisiau bod yn dibynnu ar olew a nwy o bell i ffwrdd am ein hynni?"

Dywed y mudiad y bydd protestiadau eraill i ddilyn ar draws Ynys M么n yn ystod y misoedd i ddod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol